Desmond Healy
Athro a phrifathro o Gymru oedd Howard Desmond Healy (1930 – 11 Ionawr 2021), a oedd yn enedigol o Bancffosfelen, Sir Gaerfyrddin. Ar ôl graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth, treuliodd ddwy flynedd fel glöwr, cyn mynd yn athro. Bu'n athro yn Arberth ac wedyn yn Ysgol y Preseli cyn symud i'r Gogledd fel prifathro Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy, yn 1964, lle bu nes iddo ymddeol yn 1985, gan brofi twf anferthol yn nifer y plant a fynychai'r ysgol. Bu'n byw yn Rhuddlan gyda'i wraig Eirlys (a fu farw o'i flaen), gyda'u plant Euros a Catrin.
Desmond Healy | |
---|---|
Ganwyd | 1930 Bancffosfelen |
Bu farw | 2021 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro |
Roedd yn llenor, gan ysgrifennu nofel o'r enw Yn Fflamau'r Tân a chyfrol o farddoniaeth, sef Geiriau. Ysgrifennodd lyfr ar grwydro America hefyd.[1]
Roedd Desmond Healy'n daid i ferched y grŵp canu Sorela, sef plant Euros a'i gyn-wraig Linda Griffiths y gantores.
Llyfrau
golygu- Crwydro de America (Gwasg Gomer, 1964)
- Yn Fflamau'r Tân (Gwasg Gee, 1965)
- Geiriau (Gwasg Gee, 1981)
- Y Rhyl a'r Cyffiniau (C. Davies, 1985)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Desmond Healey", Gwefan Byd y Beirdd; adalwyd 27 Mehefin 2023