Devonport, Seland Newydd

(Ailgyfeiriad o Devonport (Seland Newydd))

Mae Devonport yn un o faestrefi Auckland, Seland Newydd ar ochr ogleddol Harbwr Waitemata ac ar lethrau Takarunga. Mae gwasanaeth fferi rheolaidd yn cyrraedd o Auckland, 12 munud i ffwrdd, ac yn mynd ymlaen at Ynys Waiheke. Enwyd Devonport ar ôl Devonport, Plymouth, ac mae'n gartref i Lynges Seland Newydd ac i'r amgueddfa y llynges ym Mae Torpedo.[1] Mae olion milwrol tanddaearol ar Ben y Gogledd.

Devonport
Mathmaestref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadAuckland Edit this on Wikidata
SirAuckland Region Edit this on Wikidata
GwladBaner Seland Newydd Seland Newydd
Yn ffinio gydaStanley Point, Vauxhall Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.8317°S 174.7963°E Edit this on Wikidata
Map

Adeiladwyd 'Y Bwncer', safle rheoli milwrol, ar ben Takarunga, pan ddisgwylwyd ymosodiad o Rwsia ym 1891. Erbyn hyn, defnyddir yr adeilad gan glwb gwerin a chlwb canu gwlad.[2]

Hanes golygu

Sefydlwyd pentre Maori yn y 14g. Roedd y safle'n ddelfrydol ar gyfer pysgota a thyfu kumara. Ar lan y môr mae cofeb i Waka Tainui, un o saith Waka (teithiau), sydd wedi dod â'r Maori o Hawaii i Seland Newydd.[3] Daeth mewnfudwyr o Ewrop yn 1840au, yn rhoi enw ‘Flagstaff’ i’r ardal ar ôl iddynt osod un ar ben Takarunga. [4]

Cludiant golygu

Mae fferiau’n mynd rhwng Auckland a Devonport bob hanner awr. Mae’r siwrnai’n cymryd 12 munud, ac mae rhai ohonynt yn myynd ymlaen at Ynys Waiheke ac Ynys Rangitoto.[5]

Mae gwasanaethau bws yn cysylltu'r dref efo gweddill ochr gogleddol y harbwr.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan visitdevonport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-23. Cyrchwyd 2016-01-24.
  2. Gwefan Clwb Gwerin Devonport
  3. "Tudalen hanes Maori ar wefan visitdevonport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-01-23. Cyrchwyd 2016-01-24.
  4. Gwefan Fullers
  5. "Gwefan Cyfeiriadur Devonport". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-04-19. Cyrchwyd 2018-04-30.

Dolen allanol golygu