Pawb a'i Farn
Rhaglen deledu ar S4C yn trafod materion cyfoes yw Pawb a'i Farn. Mae'r sioe yn teithio i wahanol leoliadau yng Nghymru gan wahodd cynulleidfa leol i osod cwestiynau i banel o wleidyddion a phobl amlwg. Cychwynnodd y rhaglen ym mis Mai 1993 a chynhyrchir y rhaglen gan BBC Cymru i S4C. Betsan Powys yw'r cyflwynydd presennol.
Pawb a'i Farn | |
---|---|
Genre | Materion cyfoes, Gwleidyddiaeth |
Cyflwynwyd gan | Betsan Powys (2020-) Dewi Llwyd (1998-2019) Huw Edwards (1994-1998) Gwilym Owen (1993-1994) |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 1 awr (yn cynnwys hysbysebion) |
Cwmnïau cynhyrchu |
BBC Cymru |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Rhediad cyntaf yn | Mai 1993- |
Mae'r rhaglen yn trafod pynciau llosg y dydd yn ogystal â materion lleol. Gwahoddir pedwar panelydd i gymerid rhan, wedi eu dewis i adlewyrchu ystod o safbwyntiau gwleidyddol. Yn wahanol i raglenni tebyg fel Question Time, i ddechrau roedd y cyflwynydd yn arwain y drafodaeth ar ei draed o flaen y gynulleidfa tra bod y panelwyr yn eistedd tu ôl i ddesg. Ers 2015 mae'r cyflwynydd wedi eistedd gyda'r panelwyr tu ôl i'r ddesg.
Cyflwynwyr
golyguY cyflwynydd gwreiddiol oedd Gwilym Owen. Ar ddiwedd 1994 daeth Huw Edwards yn gyflwynydd am bedair blynedd gyn iddo basio'r awenau i Dewi Llwyd.[1] Darlledwyd sioe gyntaf Dewi o Amlwch yn 1998 a bu'n arwain y drafodaeth am 21 mlynedd. Cyflwynodd ei sioe olaf o Landudno ar 2 Tachwedd 2019, wythnos cyn etholiad cyffredinol 2019.[2] Wedi cyfnod y pandemig COVID-19 cychwynodd gyfres newydd ar 15 Gorffennaf 2020 gyda chyflwynydd newydd, Betsan Powys.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dewi Llwyd. Pawb a'i Farn: Dyddiadur Dewi Llwyd. Y Lolfa.
- ↑ Dewi Llwyd: 'Dwi'n teimlo'n gryf am rai pethau' , BBC Cymru Fyw, 1 Tachwedd 2019. Cyrchwyd ar 2 Tachwedd 2019.