Awdur a chyfieithydd yw Ioan Kidd (ganwyd 4 Mehefin 1954). Yn enedigol o Gwmafan yng Ngorllewin Morgannwg, mae e'n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd lawer. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan cyn symud i'r brifddinas lle bu'n gweithio mewn nifer o feysydd ond yn bennaf ym maes darlledu. Gweithiodd i BBC Cymru am ryw ugain mlynedd, yn yr Adran Newyddion a'r Adran Addysg. Fe oedd golygydd cyntaf Ffeil, sef y rhaglen newyddion i blant a phobl ifanc a ddarlledir ar S4C.

Ioan Kidd
Geni Ioan Kidd
(1954-06-04) 4 Mehefin 1954 (69 oed)
Castell-nedd, Cymru
Galwedigaeth Nofelydd, cyfieithydd
Math o lên Nofelau a straeon byrion
Gwaith nodedig Dewis
Gwobrau nodedig Llyfr y Flwyddyn 2014, Barn y Bobl 2014

Gwobrau golygu

 
Un o Ble Wyt Ti?

Llyfryddiaeth golygu

Llyfrau Oedolion golygu

  • Cawod o Haul (Gwasg Gomer, 1977) - nofel
  • O'r Cyrion (Gwasg Gomer, 2006; ailargraffiad 2009) - straeon byrion
  • Un o Ble Wyt Ti? (Gwasg Gomer, 2011) - nofel
  • Dewis (Gwasg Gomer, 2013; ailargraffiad 2014) - nofel; enillydd Llyfr y Flwyddyn 2014 a Barn y Bobl yr un flwyddyn

Llyfrau Plant golygu

Addasiadau - Llyfrau Plant golygu

  • Louis Sachar, Tyllau (Gwasg Gomer, 2007)
  • Robert Munsch, Awyren Alys (Houdmont, 2016)
  • Robert Munsch, Gwerth y Byd (Houdmont, 2016)

Ar y Cyd golygu

Cyfeiriadau golygu