Digwyddiad y Berwyn

Digwyddiad unigryw pan ymddangosodd gwrthrych hedegog anhysbys (Saesneg: UFO) oedd digwyddiad y Berwyn ar 23 Ionawr 1974 yng nghadwyn mynyddoedd y Berwyn yn Llandrillo, Sir Feirionnydd (heddiw: Sir Ddinbych), Gogledd Cymru. Cynigir nifer o esboniadau gwyddonol i'r digwyddiad, ond cred rhai mewn damcaniaeth gydgynllwyniol a'i fod yn ymwneud â bodau arallfydol. Gelwir y digwyddiad yn "Roswell gwledydd Prydain", enw a roddir hefyd ar ddigwyddiad Coedwig Rendlesham yn Suffolk, Dwyrain Lloegr.

Digwyddiad y Berwyn
Enghraifft o'r canlynolunidentified flying object Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Yr olygfa o Gadair Berwyn.

Yn ôl tystion, yr oedd nifer o oleuadau anghyffredin yn yr awyr, ac yna crynodd y ddaear, gan beri i nifer o bobl gredu fod awyren neu rywbeth tebyg wedi chwalu yn y bryniau. O fewn awr, roedd ymchwiliad gan yr heddlu ar waith, gyda chymorth tîm achub yr Awyrlu Brenhinol o Ynys Môn. Daeth y chwilio i ben y prynhawn canlynol heb iddyn nhw ganfod na datrys beth ydoedd. Roedd daeargryn yng ngogledd Cymru'r noson honno sy'n esbonio'r crynu, ac mae'n bosib fod y golau a welwyd naill ai'n feteor neu'n ffenomen anghyffredin a elwir yn "olau daeargryn".

Honna rhai i wrthrych hedegog arallfydol daro'r Berwyn, a bod cyrff bodau arallfydol wedi'u canfod a'u cuddio gan lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dywed rhai y cafodd y trigolion lleol ymweliad gan "Ddynion mewn Du".