Dilwyn

pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd

Pentref a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Dilwyn.[1] Fe'i lleolir ger y ffordd A4112 tua 6 milltir i'r de-orllewin o dref Llanllieni (tua 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Henffordd).

Dilwyn
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSwydd Henffordd
(Awdurdod Unedol)
Daearyddiaeth
SirSwydd Henffordd
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.186°N 2.856°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04000738 Edit this on Wikidata
Cod OSSO417547 Edit this on Wikidata
Cod postHR4 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 711.[2]

"Black and white village" yw'r pentref; hynny yw, mae'n enwog am ei adeiladau ffrâm bren du a gwyn.

Ychydig i'r gogledd o'r pentref ceir cymunedau bychain Dilwyn Common, Little Dilwyn a Sollers Dilwyn. Mae'n anodd gwybod a ydyw'r enw Dilwyn yn tarddu o'r enw personol Cymraeg 'Dilwyn' neu yn llygriad o 'Dulwyn' (du + llwyn).

Gorwedd y pentref mewn cwm llydan sy'n arwain o afon Gwy i Lanllieni, gyda ffrwd Stretford Brook yn rhedeg trwyddi. I'r gogledd ceir afonydd Arrow a Lugg. Nodweddir Dilwyn gan nifer o'r hen dai hanner pren du a gwyn sydd mor nodweddiadol o ogledd-orllewin Swydd Henffdordd.

Mae plwyf Dilwyn yn cynnwys cymunedau Sollers Dilwyn, Little Dilwyn, The Haven, Hill Top, The Hurst, Headland, Bearton, Bidney, Henwood, Stockmoor a Stockingfield. Ceir dros 200 annedd yn 6,400 acr y plwyf a phoblogaeth o 758 (2001).

Eglwys y Santes Fair, Dilwyn

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 18 Hydref 2019
  2. City Population; adalwyd 18 Hydref 2019
  Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Henffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.