Dinas Dinlle (bryngaer)

Bryngaer ym mhentref Dinas Dinlle, Gwynedd, yw Dinas Dinlle, sy'n sefyll ar fryn isel ar draeth Morfa Dinlle. Enwir y pentref ar ôl y gaer. Mae'n dyddio o Oes yr Haearn, sef cyfnod y Celtiaid.

Dinas Dinlle
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0816°N 4.3347°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH43705635 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwCN048 Edit this on Wikidata

Disgrifiad

golygu

Mae'n gaer arfordirol o bridd a'i ochr orllewinol wedi'i hysu i ffwrdd gan y môr erbyn hyn. Codwyd dau glawdd anferth o gwmpas y bryn gan yr adeiladwyr. Tybir ei fod yn perthyn i ail gyfnod Oes yr Haearn (Oes yr Haearn B). Cafwyd gwrthrychau ynddi sy'n dyddio i'r 2ail ganrif a'r 3g, sy'n dangos fod pobl yn dal i fyw yno yng nghyfnod y Rhufeiniaid.[1]

 
Dinas Dinlle o'r de
 
Dinas Dinlle o bentref Dinas Dinlle

Pedwaredd Gainc y Mabinogi

golygu

Mae'r gaer yn enwog yn llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru oherwydd ei chysylltiad â Phedair Cainc y Mabinogi. Yn y bedwaredd gainc, Math fab Mathonwy, mae'r arwr Lleu ('Lleu Llaw Gyffes') yn cael ei feithrin yn Ninas Dinlle ('Dinas Dinllef' yw'r sillafiad a geir yn y testun) gan y dewin Gwydion ap Don i farchogaeth a dwyn arfau:

'Yna y daethant [h]wy parth a Dinas Dinllef. Ac yna meithrin Lleu Llaw Gyffes yny allwys (nes y gallai) marchogaeth pob march ac yny oedd gwbl o bryd, a thwf a meint.'[2]

'Dinas Dinllef' sydd gan y copïydd yn y llawysgrif, sef 'Dinas Dinlleu', o 'Dinlleu', sef 'Caer Lleu' ('din' = caer). 'Dinas Dinlla' yw'r enw ar lafar yn y cylch.

Yn 'Englynion y Beddau' yn Llyfr Du Caerfyrddin dywedir i Wydion gael ei gladdu yn Ninas Dinlle:

'Bedd Gwydion ap Don
ym Morfa Dinlleu
i-dan faen defeillion.'[3]

Yn y môr gyferbyn â Dinas Dinlle ceir Caer Arianrhod, cartref arallfydol Arianrhod yn y Mabinogi.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber and Faber, 1978).
  2. Ifor Williams (gol.), Pedair Cainc y Mabinogi (Caerdydd, 1930), tud. 81. Diweddarwyd yr orgraff fymryn.
  3. Dyfynnir gan Ifor Williams, op. cit.

Gweler hefyd

golygu