Dinas Powys (bryngaer)
Mae Dinas Powys yn fryngaer fechan o tua 0.08ha, rhyw dair milltir i'r de-orllewin o ddinas Caerdydd a hanner milltir i'r gogledd o bentref Dinas Powys gyda llethrau serth.
Math | caer bentir, bryngaer gyda mannau caeedig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.4375°N 3.2206°W |
Cod OS | ST15207160 |
Enw
golyguMae'r fryngaer hon yn un o sawl caer yng Nghymru a elwir yn 'ddinas', e.e. Dinas Emrys, Dinas Cerdin; hen ystyr y gair hwnnw yw "caer" ac mae'n enw gwrywaidd mewn enwau lleoedd (ond yn enw benywaidd heddiw).
Disgrifiad
golyguSaif Dinas Powys ar fryn rhyw 200 troedfedd o uchder. Bu cloddio archaeolegol ar y safle rhwng 1954 a 1958. a gwnaed nifer o ddarganfyddiadau diddorol, yn enwedig arteffactau o'r Oesoedd Canol.[1] Cafwyd hyd i olion o ddechrau Oes yr Haearn, o'r 5ed a'r 6g ac o ddiwedd yr 11g.
Y darganfyddiadau o'r bumed a'r 6g yw'r rhai mwyaf diddorol; Dinas Powys yw'r safle bwysicaf o'r cyfnod yma i'w darganfod yng Nghymru hyd yn hyn. Ymhlith y darganfyddiadau roedd darnau crochenwaith o ardal Môr y Canoldir, gwydr o ffynhonnell Diwtonaidd a gwaith metel Celtaidd. Credir fod Dinas Powys yn llys pennaeth neu frenin yn y cyfnod yma. Cafwyd hyd i ddwy adeilad petrual yn mesur tua 7.5m.
Llyfryddiaeth
golygu- Alcock, Leslie (1963) Dinas Powys: an Iron Age, Dark Age and Early Medieval settlement in Glamorgan (Gwasg Prifysgol Cymru).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Coflein". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-01. Cyrchwyd 2010-09-11.