Diod feddwol

math o ddiod

Diod sy'n cynnwys ethanol (a adwaenir yn fwy cyffredin fel alcohol) yw diod feddwol. Weithiau caiff diod feddwol ei galw'n ddiod alcoholaidd neu'n ddiod gadarn. Rhennir diodydd meddwol i mewn i dri prif gategori: cwrw, gwinoedd a gwirodydd.

Rhai diodydd alcoholig traddodiadol

Yfir diodydd meddwol yn y mwyafrif o wledydd y byd. Mae gan bob cenedl ddeddfau sy'n rheoli'r modd y cânt eu cynhyrchu, gwerthu a'u hyfed. Mae'r cyfreithiau hyn yn nodi'r oed y gall person yfed neu brynu'r diodydd hyn yn gyfreithlon. Amrywia'r oed hyn rhwng 16 a 25 mlwydd oed, yn dibynnu ar y genedl ac ar y math o ddiod. Gyda'r mwyafrif o wledydd, yr oed cyfreithiol i brynu ac yfed alcohol yw 18 mlwydd oed.[1]

Gwelir alcohol yn cael ei gynhyrchu a'i yfed yn y mwyafrif o ddiwylliannau'r byd, o bobloedd hela a chasglu i genhedloedd-wladwriaeth.[2] Yn aml, mae diodydd meddwol yn chwarae rhan bwysig mewn digwyddiadau cymdeithasol y diwylliannau hyn. Mewn nifer o ddiwylliannau, mae yfed yn chwarae rôl allweddol mewn rhyngweithio cymdeithasol - oherwydd effeithiau niwrolegol alcohol yn bennaf.

Hanes golygu

Cynhyrchwyd diodydd alcoholaidd yn yr Henfyd am resymau ymarferol ac nid, i gychwyn, er mwyn meddwi arnynt. Mae alcohol yn atal bacteria rhag tyfu mewn diod, ac felly yn eu cadw rhag mynd yn ddrwg. Cafodd y diodydd meddwol hynaf eu heplesu, ac mae'n debyg mae'r Babiloniaid hynafol oedd y bobl gyntaf i wneud hynny. Darganfu llechi Babilonaidd sydd yn disgrifio'r broses o fragu cwrw o haidd. Yr hen Eifftiaid oedd y cyntaf i wneud gwin, wedi iddynt ganfod bod eplesu sudd y grawnwin yn ei gadw rhag difetha. Mewn rhai llefydd, roedd yfed diodydd eplesedig yn fwy diogel na llyncu dŵr y ffynhonnau amhur.

Yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Rufeinig, cedwid cyfrinachau eplesu gan y mynachlogydd er mwyn cynhyrchu gwin ar gyfer y cymun. Ymledodd bragdai a gwinllannoedd ar draws Ewrop yn yr Oesoedd Canol, ac erbyn oes y Dadeni roedd urddau crefft yn rheoli'r fasnach gwrw a'r fasnach win.

Cyfeiriadau golygu

  1. Minimum Age Limits Worldwide Archifwyd 2009-08-27 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd ar 2009-09-20 International Center for Alcohol Policies
  2. Volume of World Beer Production European Beer Guide. Adalwyd ar 2006-10-17
Chwiliwch am diod feddwol
yn Wiciadur.