Dirprwy Brif Weinidog

Mewn rhai gwledydd, gweinidog sy'n gallu cymryd drosodd yn lle'r Prif Weinidog os bydd yn absennol dros dro o'r swydd am ryw reswm yw Dirprwy Brif Weinidog neu Is Brif Weinidog. Mae'n swydd debyg i honno Is Arlywydd, ond gyda gwahaniaethau pwysig, er bod y ddwy swydd fel ei gilydd yn ail ar ôl yr arweinydd gwladol. Yng Nghanada, swyddi i weision sifil ydyw, fel y swydd o brif weinidog ei hun. Ceir swyddi cyffelyb yn nhaleithiau Canada ac Awstralia hefyd (Deputy Premier).

Yn aml mae dirprwy brif weinidog yn dal swydd arall yn y cabinet ac yn un o'r ffigyrau amlycaf yn y llywodraeth. Weithiau mae dirprwy brif weinidog yn is arweinydd y blaid lywodraethol neu'n arweinydd plaid lai mewn clymblaid, fel yn achos Dirprwy Brif Weinidog Cymru ar hyn o bryd (2008).

Dirprwy brif weinidogion yn ôl gwlad

golygu

Gweler hefyd

golygu