Roedd Disney on Parade, yn gyfres o sioeau theatrig teithiol a gynhyrchwyd gan gwmni cynhyrchu NAWAL, menter ar y cyd rhwng NBC a Walt Disney Productions. Wedi ei anelu yn bennaf at blant a theuluoedd, roedd y sioe yn cynnwys perfformiadau gan actorion yn portreadu cymeriadau Disney ac yn cynnwys golygfeydd o nifer o ffilmiau Disney. [1]

Clawr rhaglen y sioe 1972

Hanes golygu

Daeth y syniad gwreiddiol am gynhyrchu sioe byw yn cynnwys cymeriadau Disney gan Thomas Sarnoff, mab ifancaf Robert Sarnoff. Roedd Robert Sarnoff wedi bod yn gweithio fel pennaeth y cwmnïau darlledu Americanaidd NBC ac RCA. Ar y pryd bu NBC yn darlledu rhaglenni cyfres o gymeriadau Disney. Wedi cydsynio i'r syniad o gael sioe byw cyd sefydlwyd cwmni newydd NAWAL gan gwmnïau NBC a Disney.

Yn dilyn perfformiad treial a gynhaliwyd yn Long Beach, Califfornia, lansiwyd y rhifyn cyntaf o Disney on Parade yn Chicago, Illinois ar 25 Rhagfyr, 1969 ac roedd yn llwyddiant mawr. Fodd bynnag, roedd y sioe yn dioddef o ormodedd o bropiau, perfformwyr dibrofiad, costau uchel ac amser rhedeg o bron i dair awr, felly cyfnewidiodd NBC y cynhyrchydd Bob Jani gyda Michel M. Grilikhes, a wnaeth newidiadau effeithiol, gan gynnwys ail-drefnu neu ddileu actau i leihau costau ac amser, heb effeithio ar ansawdd y sioe.

Byddai pedwar rhifyn o Disney on Parade, pob un â set wahanol o actau, yn teithio ar draws yr Unol Daleithiau a ledled y byd, gan gynnwys ymddangosiadau yn Ne America, Ewrop, Asia ac Awstralia. Cafodd perfformiad yn Adelaide, Awstralia ei recordio ar fideo a'i ddarlledu fel sioe un awr arbennig o'r enw The Wonderful World of Disney ym mis Rhagfyr 1971 [2]. Erbyn 1976, daeth y sioeau teithiol i ben, er bod sioeau tebyg yn dal i gael eu perfformio ym mharciau gwyliau Disney.[3]

Fformat golygu

Dechreuodd pob sioe Disney on Parade gyda Mickey Mouse a mintai o gymeriadau Disney yn dawnsio ar y llwyfan ac yn cyfarch aelodau'r gynulleidfa yn bersonol. Yna byddai'r sioe yn cyflwyno darnau cerddorol mawreddog, yn dangos cymeriadau a golygfeydd o ffilmiau Disney, ochr yn ochr â threfniadau comedi llai gyda chymeriadau fel Donald Duck, Goofy a Herbie the Love Bug. Byddai'r sioe yn dod i ben gyda'r cymeriadau yn ymddangos gyda'i gilydd ar gyfer diweddglo ysblennydd i ffarwelio a'r gynulleidfa. Rhannwyd pob sioe yn ddwy act gyda thoriad 15 munud.

Yn nodweddiadol, roedd llwyfan y theatr yn cynnwys llenni mawr, y byddai'r cymeriadau a setiau'n ymddangos ohonynt a sgrin lluniau symudol a fyddai'n cyflwyno clipiau o nodweddion Disney a ffilmiau byr i gyflwyno'r setiau byw.[4]

Derbyniad golygu

Cafodd Disney on Parade derbyniad da gan gynulleidfaoedd a beirniaid. Fe wnaeth y perfformiad cyntaf yn Madison Square Garden derbyn $ 400,000 mewn gwerthiant tocynnau o flaen llaw, a mynychodd 77,255 o bobl perfformiad yn Salt Lake City, Utah mewn naw diwrnod, tua 38% o boblogaeth y ddinas. Aeth y sioe ar daith trwy Ewrop ac yn ddiweddarach, Awstralia, Asia ac America Ladin, gan wneud $64 miliwn ledled y byd.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Disney on Parade (show)". Fandom. Cyrchwyd 20 Hydref 2018.
  2. "The Wonderful World of Disney". YouTube. Cyrchwyd 20 Hydref 2018.
  3. "Celebrating Disney On Parade". Mouse Planet. 8 Ionawr, 2009. Cyrchwyd 20 Hydref 2018. Check date values in: |date= (help)
  4. "Disney on Parade". D23 Disney Fan Club. Cyrchwyd 20 Hydref 2018.