Cro-Magnon
Hen enw cyffredin (nid enw gwyddonol) yw Cro-Magnon a ddefnyddir i ddisgrifio bodau dynol (Homo sapiens sapiens) cynnar a oedd yn byw yn Hen Oes y Cerrig Uchaf o Ewrop. Y term cyfoes yw ‘bodau dynol modern cynnar yr Ewrop’ (European early modern humans (EEMH). Gan mai enw cyffredin ydyw Cro-Magnon nid oes iddo statws tacsonomegol ffurfiol.[1]
Canfuwyd gweddillion pobl Cro-Magnon yn yr Eidal ac yng ngwledydd Prydain, ac fe'i dyddiwyd gan ddyddio radiocarbon i rhwng 43,000 a 45,000 cyn y presennol (CP).[2][3] Cafwyd hyd i weddillion Pro-Magnon hefyd yn Yr Arctig Rwsiaidd a ddyddiwyd i 40,000 CP.[4][5]
O ddadansoddi'r esgyrn a ganfuwyd, gwyddwn fod Cro-Magnon yn gryf, trwm gyda thalcen syth ac wyneb llydan a byr. Roedd ei ên yn amlwg iawn a'i ymennydd oddeutu 1,600 cc - mwy na bodau dynol modern.[6]
Etymoleg
golyguDaw'r enw o le o'r enw Abri de Cro-Magnon ("abri" yw'r gair Ffrangeg am "gysgod craig", "cro" yw'r Ocsitaneg am "dwll" neu "wagle"[7] a "Magnon" oedd enw perchennog y tir ar y pryd. Saif ym mhentref bychan Les Eyzies yng nghymuned Les Eyzies-de-Tayac-Sireuil yn ne-orllewin Ffrainc, ble y canfuwyd y gweddillion cyntaf. Oherwydd y cysylltiad agos gyda dyn modern (Homo sapiens sapiens), cysylltir paentiadau Ogof Lascaux.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Fagan, B.M. (1996). The Oxford Companion to Archaeology. Oxford, UK: Oxford University Press. tt. 864. ISBN 978-0-19-507618-9.
- ↑ Benazzi, S.; Douka, K.; Fornai, C.; Bauer, C. C.; Kullmer, O.; Svoboda, J. Í.; Pap, I.; Mallegni, F. et al. (2011). "Early dispersal of modern humans in Europe and implications for Neanderthal behaviour". Nature 479 (7374): 525. Bibcode 2011Natur.479..525B. doi:10.1038/nature10617. PMID 22048311.
- ↑ Higham, T.; Compton, T.; Stringer, C.; Jacobi, R.; Shapiro, B.; Trinkaus, E.; Chandler, B.; Gröning, F. et al. (2011). "The earliest evidence for anatomically modern humans in northwestern Europe". Nature 479 (7374): 521. Bibcode 2011Natur.479..521H. doi:10.1038/nature10484. PMID 22048314.
- ↑ doi:10.1038/35092552
This citation will be automatically completed in the next few minutes. You can jump the queue or expand by hand - ↑ "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2015-08-14. Cyrchwyd 2015-10-22.
- ↑ "Cro-Magnon". Encyclopædia Britannica Online. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-26. Cyrchwyd Hydref 2010. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ "Cros". Cyrchwyd 2014-08-15.