Diwylliant Guadeloupe

Ynysfor o'r Antilles Leiaf ym Môr y Caribî a rhanbarth tramor o Ffrainc yw Guadeloupe, ac mae diwylliant Guadeloupe yn gyfuniad yn bennaf o ddylanwadau'r Affricanwyr a'r Ewropeaid sydd wedi ymfudo yno. Y ddwy brif iaith a siaredir yn Guadeloupe yw Ffrangeg a Chreol Ffrangeg y Caribî (a siaredir hefyd ym Martinique). Clywir hefyd ieithoedd lleiafrifoedd o Asia, er enghraifft cerddoriaeth Arabeg gan fewnfudwyr o Syria a Libanus a gweddïau Tamileg mewn defodau'r Hindwiaid o dras Indiaidd.[1]

Mae diwylliant gwerin ac adfywiad yr iaith Greol yn arwyddocaol wrth ddathlu diwylliant brodorol Guadeloupe. Un o nodweddion yr ynysoedd yw madras et foulard, gwisg o siôl a wneir o frethyn madras a phenwisg o sgarffiau, a wisgir gan ferched ar wyliau blynyddol gan gynnwys Carnifal. Mae'r ddawns beguine, sydd yn deillio o Guadeloupe a Martinique, yn debyg i'r rymba.

Llenor enwocaf Guadeloupe yw'r bardd Saint-John Perse (1887–1975), a gafodd ei eni yn Pointe-à-Pitre i deulu o dras Ffrengig a'i fagu yno nes iddo symud i la Métropole yn 12 oed. Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1960. Ymhlith yr awduron eraill o Guadeloupe mae'r nofelydd Ffrangeg Maryse Condé (1934–2024) sydd yn ymdrin â phrofiadau'r Affricanwyr ar wasgar yn ei gweithiau, a'r ieithydd Dany Bébel-Gisler (1935–2003) a fu'n gefnogwr brwd o ddiwylliant drwy gyfrwng Creol Ffrangeg y Caribî.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Ellen M. Schnepel, "Guadeloupe" yn Countries and Their Cultures. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 15 Tachwedd 2021.