Bardd a diplomydd o Ffrainc oedd Saint-John Perse (Marie-René-Auguste-Aléxis Saint-Léger Léger; 31 Mai 188720 Medi 1975). Enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1960 "am ehediad esgynnol a delweddaeth atgofus ei farddoniaeth sydd mewn dull gweledigaethol yn adlewyrchu amodau ein hoes".[1]

Saint-John Perse
Saint-John Perse ym 1960.
FfugenwSaint-John Perse Edit this on Wikidata
GanwydAlexis Leger Edit this on Wikidata
31 Mai 1887 Edit this on Wikidata
Pointe-à-Pitre Edit this on Wikidata
Bu farw20 Medi 1975 Edit this on Wikidata
Hyères Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Bordeaux Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfieithydd, diplomydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
PriodDorothy Russel Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Lenyddol Nobel Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar ac addysg

golygu

Ganed ef yn Pointe-à-Pitre, Guadeloupe, yn y Caribî, pan oedd yr ynys yn un o drefedigaethau Ymerodraeth Ffrainc ond nid eto yn rhan hanfodol o Ffrainc. Fe'i magwyd yn Guadeloupe nes iddo symud i la Métropole yn 12 oed. Astudiodd ym mhrifysgolion Bordeaux a Pharis.

Gyrfa ddiplomyddol

golygu

Ymunodd â gwasanaeth diplomyddol Ffrainc ym 1914. Aeth i Tsieina a gwasanaethodd yn is-gennad yn Shanghai ac yn ysgrifennydd yn y llysgenhadaeth yn Beijing. Ym 1921 aeth i'r Gynhadledd Lyngesol yn Washington, D.C. fel arbenigwr ar faterion Dwyrain Asia. O 1921 i 1932, efe oedd ysgrifennydd i Aristide Briand, Prif Weinidog a Gweinidog Tramor Ffrainc. Fe'i penodwyd yn ysgrifennydd cyffredinol yn y weinyddiaeth dramor ym 1933, a'i dyrchafwyd i reng llysgennad.[2]

Yn sgil cwymp y Drydedd Weriniaeth yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe'i diswyddwyd gan lywodraeth Vichy ym 1940 a chollodd ei ddinasyddiaeth Ffrengig. Aeth yn alltud i Unol Daleithiau America, ac yno gweithiodd yn arbenigwr ar lenyddiaeth Ffrangeg yn Llyfrgell y Gyngres. Dychwelodd i Ffrainc ym 1957.[2]

Barddoniaeth

golygu

Mae barddoniaeth gynnar Perse, er enghraifft y casgliad Éloges (1911), yn dangos dylanwad Symbolaeth. Yn ddiweddarach, datblygodd arddull ei hun, gydag ieithwedd fanwl ond anodd a werthfawrogir gan feirdd eraill a beirniaid, gyda llai o apêl i'r darllenydd cyffredin. Yr enwocaf o'i weithiau cynnar ydy'r gerdd hir Anabase (1924).

Ymhlith y cyfrolau a gyhoeddwyd ganddo yn ei gyfnod o alltudiaeth yn yr Unol Daleithiau mae Exile (1942), Vents (1946), Amers (1957), Chronique (1960), ac Oiseaux (1962). Mae ei gasgliadau diweddarach yn mynegi purdeb, trasiedi, a chyfuniad o ddeallaeth ac angerdd a ystyrir yn nodweddiadol o lên Ffrainc.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "The Nobel Prize in Literature 1960", Sefydliad Nobel. Adalwyd ar 1 Gorffennaf 2023.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Saint-John Perse. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Gorffennaf 2023.