Djebel Bou Kornine

Mynydd trawiadol sy'n dominyddu Gwlff Tiwnis yng ngogledd Tiwnisia yw Djebel Bou Kornine (Arabeg: جبل بوقرنين), hefyd Djebel Boukornine neu Bou Kornine/Boukrnine; Bou Garnine ar lafar), sy'n codi i uchder o 576 metr uwchben trefi Hammam Lif a Borj Cedria yn nhalaith Ben Arous, ger Tiwnis. Mae'r mynydd calchfaen hwn yn cynrychioli un o'r copaon olaf cadwyn Dorsal Tiwnisia i gyfeiriad y dwyrain.

Djebel Bou Kornine
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Tiwnisia Tiwnisia
Uwch y môr576 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.705°N 10.3333°E, 36.6903°N 10.3628°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddDorsal Tiwnisia Edit this on Wikidata
Map
Golygfa ar Djebel Bou Kornine o gyfeiriad Carthago

Daw'r enw o'r Arabeg dafodieithol bou garnine sy'n golygu "mynydd â dau gorn". Fe'i gelwir felly oherwydd ei ddau gopa gefaill (576m a 493 m). Mae'n bosibl fod yr enw yn tarddu o gyfnod u Carthaginiaid pan gafodd ei gysegru i'r duw Baal Karnine ('duw dau gorniog' yn yr iaith Ffeniceg).

Mae'n rhan o Barc Cenedlaethol Boukornine, parc bychan o 1939 hectar sy'n gartref i sawl rhywogaeth o anifeiliaid a phlanhigion. Gorchuddir llethrau'r mynydd â phinwydd Aleppo bytholwyrdd.

Lleolir gorsaf ddarlledu radio a theledu ar gyfer Tiwnis Fwyaf ger y copa. Gellir cyrraedd y llethrau uchaf ar hyd ffordd jip o Borj Cedria.