Djenné

tref yn Mali

Dinas fechan sydd â hanes hir iddi sy'n gorwedd yn ardal delta mewndirol Afon Niger yng nghanolbarth Mali, gorllewin Affrica yw Djenné (hefyd Dienné neu Jenne). Mae'n ganolfan masnach leol bwysig sy'n gorwedd fymryn i'r gorllewin o'r Afon Bani (llifa'r Niger heibio i'r gorllewin a'r gogledd). Mae ganddi boblogaeth o tua 12,000 (1987) o sawl grŵp ethnig.

Djenné
Mathcommune of Mali Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iGwitreg, Fès Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolhen drefi Djenné Edit this on Wikidata
Sirrhanbarth Mopti Edit this on Wikidata
GwladBaner Mali Mali
Arwynebedd302 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr278 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau13.9°N 4.55°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethrhan o Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Mae'r ddinas hynafol hon yn enwog am ei phensaernïaeth bric mwd (adobe) drawiadol, yn enwedig Mosg Mawr Djenné, a godwyd yn wreiddiol yn 1220 ac a gafodd ei aildeiladu yn 1907. Yn y gorffennol, roedd Djenné yn ganolfan dysg a masnach a fu'n adnabyddus ar draws gorllewin Affrica a hyd yn oed yn y byd Arabaidd dros y Sahara i'r gogledd gan denu ysgolheigion o sawl rhan o fyd Islam. Dyma'r ddinas hynaf a wyddys yn yr Affrica is-Saharaidd ; cyhoeddwyd ei chanol hanesyddol, yn cynnwys y Mosg Mawr, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1988. Yn weinyddol mae'n rhan o ranbarth Mopti.

Mosg Mawr Djenné

Dolenni allanol golygu