Dmitry Medvedev
Gwleidydd o Rwsia yw Dmitry Anatolyevich Medvedev (trawslythreniad amgen: Dmitri Medfedef;[1] Rwsieg: Дмитрий Анатoльевич Медведев; ganed 14 Medi 1965 yn Leningrad) a fu'n Arlywydd Rwsia o 7 Mai 2008 hyd 7 Mai 2012. Enillodd etholaeth arlywyddol Rwsia 2008, a gynhaliwyd ar 2 Mawrth 2008, gyda tua 70% o'r bleidlais.
Dmitry Medvedev | |
---|---|
Ganwyd | 14 Medi 1965 St Petersburg |
Man preswyl | St Petersburg, Moscfa, Novo-Ogaryovo |
Dinasyddiaeth | Yr Undeb Sofietaidd, Rwsia |
Addysg | PhD yn y Gyfraith |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithegwr, gwleidydd, person busnes |
Swydd | Prif Weinidog Rwsia, Arlywydd Ffederasiwn Rwsia, Dirprwy Gadeirydd Llywodraeth y Ffederasiwn Rwsia, Dirprwy Gadeirydd Cyntaf Llywodraeth y Ffederasiwn Rwsia, Leader of United Russia party, Kremlin Chief of Staff, Deputy Chairman of the Security Council of the Russian Federation |
Cyflogwr | |
Taldra | 163 centimetr |
Plaid Wleidyddol | Rwsia Unedig, Plaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd |
Tad | Anatoly Medvedev |
Mam | Yulia Medvedeva |
Priod | Svetlana Medvedeva |
Plant | Ilya Medvedev |
Gwobr/au | Order of Glory, Medal i Gofio 1000fed pen-blwyd Kazan, Urdd "Am Wasanaeth Teilwng dros y Famwlad" Dosbarth 1af, Urdd dros ryddid, Order "Danaker", Medal 10 Jahre Astana, Urdd Arfau Milwrol Cofrestredig, Памятная медаль А. М. Горчакова, Prize of the Government of the Russian Federation in the field of education, Uatsamonga Order, maroon beret, Order of St. Sava, urdd am Wasanaeth dros yr Henwlad, Dosbarth II, Urdd Teilyngdod "Am waith dros yr Henwlad", Dosbarth III, Urdd Seren Palesteina, Uwch Groes Urdd Haul Periw, Russian Federation Presidential Certificate of Gratitude, Order of Makarios III, Urdd Sant Sergius o Radonezh, Urdd yr Haul, Urdd Gwladwriaeth Palesteina |
Gwefan | http://da-medvedev.ru/ |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Cafodd ei apwyntio yn Ddirpwy Brif Weinidog Llywodraeth Rwsia ar 14 Tachwedd 2005. Yn gyn bennaeth staff i Vladimir Putin, roedd hefyd yn gadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr Gazprom, swydd y mae wedi dal (am yr ail dro) ers 2000. Ar 10 Rhagfyr, 2007, cafodd ei gefnogi yn answyddogol fel ymgeisydd am arlywyddiaeth Rwsia (etholiad 2008) gan Rwsia Unedig, y blaid wleidyddol fwyaf yn Rwsia, a chafodd ei enwebiad ei gefnogi yn swyddogol gan y blaid honno ar 17 Rhagfyr, 2007. Cefnogwyd ymgeisyddiaeth Medvedev gan yr arlywydd ar y pryd, yr Arlywydd Vladimir Putin, a phleidiau gwleidyddol eraill sy'n gefnogol iddo.[2] Fel technocrat ac apwyntydd gwleidyddol, nid oedd Medvedev erioed wedi dal swydd wleidyddol etholedig cyn 2008. Mae'n cael ei weld gan rai fel protégé Putin, wedi ei baratoi ganddo ar gyfer y swydd: un o'i benderfyniadau cyntaf oedd cynnig swydd Prif Weinidog Rwsia i Putin.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Yr athronydd yn y Cremlin". pedwargwynt.cymru. Cyrchwyd 2022-03-01.
- ↑ "Putin sees Medvedev as successor" BBC News