Dolores Ibárruri
Arwres Weriniaethol o Wlad y Basg, yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen, oedd Isidora Dolores Ibárruri Gómez (9 Rhagfyr 1895 – 12 Tachwedd 1989) – a alwyd hefyd yn "La Pasionaria" (Sbaeneg am Flodyn y dioddefaint); roedd hefyd yn wleidydd comiwnyddol o dras Fasgaidd, a oedd yn enwog am ei slogan ¡No Pasarán! ("Gwnawn nhw ddim mynd heibioǃ") yn ystod Brwydr Madrid yn Nhachwedd 1936.
Dolores Ibárruri | |
---|---|
Ffugenw | La Pasionaria |
Ganwyd | María de los Dolores Ibárruri y Gómez 9 Rhagfyr 1895 Gallarta |
Bu farw | 12 Tachwedd 1989 Hospital Universitario Ramón y Cajal |
Dinasyddiaeth | Sbaen, Yr Undeb Sofietaidd |
Addysg | Doctor of Sciences |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd |
Swydd | Spanish Communist Party General Secretary, Aelod o Gyngres Dirprwyon Sbaen, Member of the Cortes republicanas |
Plaid Wleidyddol | Communist Party of Spain |
Priod | Julián Ruiz Gabiña |
Plant | Rubén Ruiz Ibárruri |
Gwobr/au | Urdd Lenin, Gwobr Heddwch Lennin, Order of the Victory of Socialism, Urdd y Chwyldro Hydref, Q109986273 |
llofnod | |
Ymunnodd â Phlaid Comiwnyddol Sbaen (Partido Comunista Español, neu'r PCE) pan sefydlwyd y blaid yn 1921. Daeth yn ysgrifenwraig i'r Mundo Obrero, sef cyhoeddiad gan y PCE, ac yn Chwefror 1936 fe'i hetholwyd i'r Cortes Generales fel dirprwy i'r PCE tros Asturias. Yn dilyn ei halltudiaeth o Sbaen ar ddiwedd y Rhyfel Carterf, fe'i pennwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol i Bwyllgor Canolog Plaid Comiwynyddol Sbaen, ac arhosodd yn y safle hon o 1942 hyd at 1960. Fe'i gelwid yn Arlywydd Anrhydeddus y PCE, safle y cadwodd hyd ddiwedd ei hoes. Pan ddychwelodd i Sbaen yn 1977, fe'i hail-etholwyd fel dirprwy i'r Cortes i gynrychioli'r un rhanbarth a chynrychiolai yn ystod yr Ail Weriniaeth.
Adeiladwyd cerflun i Dolores Ibarruri'n Glasgow, a chofeb syml iddi'n Tudweiliog yn Pen Llŷn. Coelir mai'r rhain yw'r unig gofebion i Dolores Ibarruri. Mae Dolores wedi ei chladdu'n mynwent La Almudena, Pueblo Nuevo, Madrid, Sbaen.