Pentref bychan a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Tudweiliog[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif ar arfordir ogleddol Penrhyn Llŷn.

Tudweiliog
Eglwys Cwyfan Sant
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth970 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd3,553.36 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.899°N 4.62°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000101 Edit this on Wikidata
Cod OSSH237367 Edit this on Wikidata
Cod postLL53 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Deallir fod y pentref wedi ei enwi ar ôl Tudwal, sant o Lydaw a fu farw oddeutu'r flwyddyn 564. Mae damcaniaeth fod yr enw Tudwal (neu 'Dathyl', gweler "Caer Dathyl" ym Mhedwaredd Cainc y Mabinogi) wedi tarddu o'r Gaeleg Tuathal (Lladin Toutovalus, "Rheolwr/Tywysog y Bobl").[3] Y Tuathal mwyaf cydnabuddus oedd brenin chwedlonol Gwyddelig o'r un enw o'r ganrif 1af Túathal Techtmar, a alltudiodd i Brydain cyn dychwelyd ugain mlynedd yn ddiweddarach i deyrnasu tros Iwerddon. Mae hen ardal gyfagos o'r enw Llandudwen wedi ei enwi'n ôl Tudwen Sant, yn Ninas, Llŷn. Hefyd mae son mai enw gwreiddiol y pentref oedd "Bydwaliog".

Mae'r mwyafrif o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg fel mamiaith. Mae amaethyddiaeth yn rhan hanfodol o fywyd dyddiol y gymuned gyda thwristiaeth yn bwysig drwy'r haf. Mae i'r pentref un siop/Swyddfa'r Post, canolfan cymuned (Sef Y Ganolfan a arferai fod yn ysgol), tŷ tafarn, gefail, a busnesau newydd llewyrchus lleol megis Hen Siop Y Crydd a Cwt Tatws. Mae yma hefyd eglwys, - y ffurf bresennol a'i hadeiladwyd yn 1850 gan y pensaer enwog George Gilbert Scott, sydd wedi ei chysegru i Sant Cwyfan, disgybl i Beuno Sant [4], ar ôl Saint Kevin o'r 6g o Glean Dá Loch, yn Sir Mhantáin, Iwerddon, capel Methodistaidd (a Chapel Berseba, sydd rŵan yn anheddau) a'r ysgol gynradd (presennol) a ddathlodd ei chanmlwyddiant yn 2007. Mae gwasanaeth bws lleol yn gludiant cyhoeddus (pob 2 awr) rhwng Tudweiliog (a phentrefi eraill ar hyd y ffordd) a Phwllheli, sef cymuned mwyaf poblog Llŷn tua 10 milltir i ffwrdd. Mae Tudweiliog yn gyngor cymuned o fewn sir Gwynedd, ac o fewn dalgylch y gymuned mae atyniadau megis Coetan Arthur/Cromlech Cefnamwlch (SH 229345) (cromlech/Siambr gladdu Cefnamwlch) ar lethr Mynydd Cefnamwlch, - dyma ychydig o wybodaeth am darddiad y gromlech a'i hanes;

"....Yn ôl hanes, cludwyd y cerrig wyth milltir i ffwrdd o Fynyddoedd yr Eifl, ac mae traddodiad bod un o 'r brenhinoedd Cymreig wedi ei gladdu oddi tanynt."[5]

Coetan Arthur, Cefnamwlch

Dywed traddodiad i Arthur luchio'r penllech, y 'goeten', o ben Garn Fadrun i Fynydd Cefnamwlch a bod ei wraig wedi cario'r tair carreg yno yn ei barclod a'u gosod ar eu pennau i ddal y garreg fawr." [6]

Hefyd mae olion cymuned o Oes yr Haearn ar gopa fynydd Carn Fadryn, traethau tywodlyd Tywyn a Phenllech a phorthladdoedd hanesyddol Porth Ysgaden, a Porth Colmon yn Llangwnnadl (hefyd Llangwnadl), a Phorth Gwylan ym Mhenllech sydd dan ofalaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ffynnon Cwyfan golygu

Erbyn heddiw, yn anffodus does fawr o neb y gwybod am fodolaeth y ffynnon yma. Ma wedi ei lleoli ar lwybr yr hen bererinion ar eu ffordd i Enlli ers talwm. Arferai bobl goelio fod ei dŵr yn feddyginiaethol ar gyfer cryndod, ac anhwylsterau'r croen. Arferant offrymu pinau i'r ffynnon hon. Ffynnon Cwyfan cyfeirnod SH22833738)[4]

Gwleidyddiaeth golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[7] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[8]

Cynrychiolir Tudweiliog ar Gyngor Gwynedd gan y cynghorydd Simon Glyn (Plaid Cymru).

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[9][10][11]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Tudweiliog (pob oed) (970)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Tudweiliog) (686)
  
73.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Tudweiliog) (666)
  
68.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Tudweiliog) (156)
  
38.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Hanes golygu

Mae cyfeiriad at Dudweiliog fel pentref bach yn ôl yn y C13, gyda'i heglwys yn gyrchfan ar ffordd y pererin yn Llŷn. Roedd Tudweiliog ar y pryd yn drefgordd o fewn Morfa yng nghwmwd Cymydmaen.[12] Mae hanes y pentref yng nghlwm a thirfeiddianwr mawr hanesyddol yr ardal, sef Plas Cefnamwlch.

Arferai'r ardal amaethyddol sydd i'r gogledd-orllewin o'r pentref, lle safai ffermydd Hirderf Fawr, Hirdref Ganol, Hirdref Isaf a bwthyn Penybryn Hirdre heddiw fod yn drefgordd ganol oesol i faerdref frenhinol Nefyn. Erbyn Hydref 1352, roedd Hirdref wedi methu i ffynnu ac wedi methdalu ei ddyled i'r Faerdref, ac y roedd felin a oedd yn bodoli yno wedi dirywio. Deallir mai di-boblogi'n ystod y Pla Du oedd yn gyfrifol am hyn.[13] Mae'r hanes hyn yn awgrymu fod y rhan ogleddol o'r Dudweiliog gyfoes o leiaf wedi arfer bod o fewn awdurdodaeth cwmwd Dinllaen yn ystod yr Oesoedd Canol tra bod rhannau eraill, mwy deheuol o'r pentref o bosib, o fewn cwmwd Cymydmaen.

Cefnamwlch golygu

Mae plasdy ac ystâd Cefnamwlch wedi chwarae rhan arwyddocaol yn natblygiad y pentref ar hyd y canrifoedd, a gellir gweld ei ddylanwad ar nifer o adeiladau Tudweiliog. Un o'r adeiladau hyn yw eglwys Sant Cwyfan a'i phenseirniwyd gan Syr George Gilbert Scott yn 1849, ar safle cyn-addoldy a sonwyd amdano'n 1254.[14] Mae'n bosib y daw tarddiad yr enw "Cefnamwlch" o'r ffaith fod y plasdy'n cefnu ar fynydd o'r un enw a fod i'r mynydd hwnnw fwlch ar ei gopa, - a dyma'r enw "Cefn-ar-Fwlch".[15]

Mae'r plasdy ei hun wedi ei leoli milltir i ffwrdd o ganol y pentref ac mae'r rhannau hynaf y plasdy presennol yn dyddio o'r 17g hwyr i'r 18g cynnar. Nid hwn oedd y plasdy gwreiddol, safai hwnnw mewn lleoliad sydd rŵan yn rhan o'r gerddi, a dyddiai o'r 15C hwyr nes iddo gael ei ddisodli gan y plasdy presennol a'i dynnu i lawr. Mae'r porthdy gwreiddiol a wasanaethai'r plasdy gwreiddiol yn dal i sefyll, ac yn dyddio o 1607.

Bu Cefnamwlch yn gartref i deulu blaenllaw Griffith o Lŷn a oedd yn a dylanwad mawr yng ngwleidyddiaeth Sir Gaernarfon ar y pryd.

Beudy Bigin golygu

Tua milltir allan o bentref Tudweilog i gyfeiriad y de daw fforch yn y lôn lle mae'r B4417 yn troi am Langwnnadl a lôn arall - "Lôn Trigwm" i gyfeiriad Sarn Mellteyrn. Ychydig fedrau ar hyd Lôn Trigwm o'r cyffordd bach yma mae olion hen chwarel, carreg filltir ac arwydd-bost go newydd mewn ffurf hen ffasiwn. Heblaw am hynny does fawr o ddim i'w weld yn arbennig yma heblaw am yr olygfa odidog o Fôr Iwerddon a thiroedd amaethyddol gwastad Penllech i'r gorllewin a chychwyniad coed Cefnamwlch ychydig ymhellach ymlaen i fyny Lôn Trigwm i gyfeiriad Cromlech Cefnamwlch. Ond, i lawer heddiw byddai syndod i wybod fod enw i'r cyffordd bach yma - Beudy Bigin.

Deallir ar un adeg fod beudy o ryw ddisgrifiad o leiaf yn sefyll yma, ac ystyr "Bigin", - wel, mae ar ddeall mai gwraidd yr enw yw'r gair Saesneg bing sy'n dynodi "llwybr cul o fewn beudy".[15] Er nad oes adeilad i'w weld ym Meudy Bigin erbyn heddiw, mae tystiolaeth bod adeilad - neu'n hytrach adeiladau wedi bodoli yno ar un oes. O hen fap o'r Arolwg Ordnans (1839-41) gwelwn dystiolaeth am fodolaeth o leiaf tri adeilad yn agos iawn i'r cyffordd fach,[16] ai un o'r adeiladau yma oedd y "beudy" gwreiddiol tybed?

Brynodol golygu

Mae fferm hynafol Brynodol tua milltir tu allan o bentref Tudweiliog ar lôn Dinas wedi i ei hamgylchynu gan winllan o goed brodorol. Mae cyfeiriad at Frynodol mor bell yn ôl â 1352. Mae hefyd son am amser pan oedd cromlech yn sefyll ar dir Brynodol ond does dim ôl ohoni erbyn heddiw.[17]

Ellen Owen golygu

Tra ei bod hi'n hawdd ddigon i basio trwy Tudweiliog heb feddwl ddwywaith am ddim o bwys a allai fod wedi digwydd yno erioed nac am neb o bwys a allai wedi cael eu magu yno, os ewch i fynwent Sant Cwyfan yng nghanol y pentref fe ddowch o hyd i garreg fedd marmor nodweddiadol ac arni enw gwr a gwraig o'r enw Thomas ac Ellen Owen. Magwyd y ddau yn Nhudweiliog yng nghanol yr 19G, yntau i deulu'r Felin, a hithau i deulu a drigai'n Mhwllgwd. Bu i Thomas gychwyn ei yrfa ar y môr a daeth yn gapten, a bu iddo briodi Ellen a buan y bu i'r ddau drafeulio i borthladdoedd Ewrop gyda'u gilydd. Os nad yw hyn yn ddigon o syndod fel y roedd yn barod, y peth sy' gwneud yr hanes hyn yn fwy arbennig yw fel y bu i Ellen ymuno a'i gwr ar fordaith hir o gwmpas y byd mewn llong o'r enw'r Cambrian Monarch gan adael o Gasnewydd ar y deuddegfed o Fai 1881 gan gyrraedd Sydney, Awstralia erbyn Awst y deuddegfed. O Awstralia, hwyliodd y Cambrian Monarch a'i chriw ymlaen ar draws y Cefnfor Tawel i San Francisco'n yr UDA. Yr hyn sy'n wyrthiol am eu siwrnai yn ôl o San Francisco i Luimneach (Limerick) yn yr Iwerddon erbyn 13fed o Fehefin 1883 wedyn ydy'r ffaith i Ellen gadw dyddiadur o'i hantur, - rhywbeth prin iawn i'w gael yn y Gymraeg, a gan wraig capten o'r cyfnod. Dyma ran o'r hyn a ysgrifennodd Ellen Owen o'r amser yr hwyliodd y Cambrian Monarch o gwmpas yr Horn, rhwng cyfandiroedd De America ac Antartica ar 25/03/1882;

"Dydd Sadwrn. 25 Mawrth 1882 Yr ydym wedi cael dywrnod da er dou. y mae y Brenhin Mawr yn dda iawn wrthym yn a'i rhagluniaeth. 7 wythnos i heddiw sydd ers pan y darfym hwylio ag yr ydym wedi pasio Cape Horn y prutnhawn heddiw. y mae yn byr our fel ag y bydd hi yma bob amser ar y flwyddyn. yr ydym yn disgwyl y gwnawn i bassage go dda adref. yr ydym wedi dyfod o Frisgo i Cape Horn yn gynt o 9 dwyrnod nag y daeson nhw yr tro or-blaen. yr hyn euthom er dou 220 Millter."[18]

Yn dilyn eu dychweliant diogel yn ôl i Gymru, llwyddodd Ellen a Thomas i brynu bwthyn bach rhwng Brynffynon a Thyddyn Mawr yn Nhudweilog, sef Cors Iago. Bu i Ellen son am ei gobeithion am gael Cors Iago'n ei dyddiadur wrth iddi ddychwelyd o San Francisco ac ar ôl llwyddo i'w brynu fe adeiladwyd tŷ o'r newydd yn agos iddo ganddynt, - sef Minafon, sy'n bodoli hyd heddiw [19]

Ellen Owen, ganwyd yn 1845, a fu farw 20 Chwefror 1931 yn 85 mlwydd oed.

Cysylltiad Tudweiliog â hanes yr UDA golygu

Mae cysylltiad wedi ei wneud rhwng Tudweiliog â hynafiaid Abraham Lincoln [20],

".......cyhoeddodd Abraham Lincoln...ei Ddatganiad Rhyddid, yn datgan bod pob caethwas yn yr ardaloedd o dan warchodaeth y Gyngrhair yn rhydd."

Abraham Lincoln oedd 16ed Arlywydd yr UDA a arweiniodd ei wlad drwy gyfnod eu rhyfel cartref.

Gweler hefyd o ran diddordeb lleol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 18 Ionawr 2022
  3. Campbell, Kenneth L. (2017). "Religion in Britain from the Megaliths to Arthur: An Archaeological and Mythological Exploration by Robin Melrose". Arthuriana 27 (4): 87–89. doi:10.1353/art.2017.0038. http://dx.doi.org/10.1353/art.2017.0038.
  4. 4.0 4.1 http://www.snowdoniaheritage.info
  5. Roberts, W. Arvon (2009). Lloffion Llyn. Llanrwst: Carreg Gwalch. t. 85. ISBN 9781845272388.
  6. Gruffydd, Elfed (1998). Cyfres Broydd Cymru Llyn. Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch. t. 18. ISBN 0863814921.
  7. Gwefan Senedd Cymru
  8. Gwefan Senedd y DU
  9. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  11. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  12. Historic Landscape Characterisation Llŷn - Area 21 The Western Coastal Plain from Llangwnadl to Porthdinllaen PRN 33494; Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd/ Gwynedd Archeological Trust
  13. http://www.heneb.co.uk
  14. "Tudweiliog"[dolen marw], Penllyn.com; adalwyd 18 Ionawr 2022
  15. 15.0 15.1 "Enwau Llefydd Llyn", BBC; adalwyd 18 Ionawr 2022
  16. Cassini Maps. Old Series, Map 123, Lleyn Peninsula. UK: Cassini Publishing Ltd. ISBN 978-1-84736-046-5.
  17. http://www.crwydro.co.uk
  18. Eames, Aled (1988). Gwraig y Capten. Gwasanaeth Archifau Gwynedd: Gwasanaeth Archifau Gwynedd. t. 86.
  19. Eames, Aled (1988). Gwraig y Capten. Gwasanaeth Archifau Gwynedd. t. 108.
  20. Williams, W Arvon (Rhagfyr 2011). "Milwr o'r Rhiw". Llanw Llyn.