Donald Holroyde Hey
Cemegydd organig
Cemegydd organig o Gymru oedd Donald Holroyde Hey (12 Medi 1904 – 21 Ionawr 1987), a ddarganfyddodd radicalau rhydd mewn toddiant. Cafodd ei eni, ei fagu a'i addysgu yn Abertawe cyn symud i Fanceinion, ac yna i Lundain i fynychu Coleg y Brenin.
Donald Holroyde Hey | |
---|---|
Ganwyd | 12 Medi 1904 Abertawe |
Bu farw | 21 Ionawr 1987 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cemegydd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Tilden Prize |
Trafododd mewn papur ei theori enwog fod perocsid bensoil wrth ddadelfennu yn rhoi radicalau rhydd (radicalau ffenyl). Cyhoeddodd ei bapur yn 1934. 'Chafodd y papur (a'r syniad) mo'i dderbyn am ugain mlynedd arall.