Isddisgyblaeth o fewn cemeg sy'n ymwneud â'r astudiaeth wyddonol o strwythurau, priodweddau, cyfansoddiadau ac adweithiau cemegol ydy cemeg organig. Gall hefyd gynnwys paratoi drwy synthesis neu unrhyw ffordd arall gyfansoddion carbon eu sail, hydrocarbon a deilliadau eraill.

Cemeg organig
Enghraifft o'r canlynolcangen o fewn cemeg, pwnc gradd, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Mathcemeg Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebcemeg anorganig Edit this on Wikidata
Rhan ocemeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Strwythur moleciwl o fethan (methane): y cyfansoddyn hydrocarbon symlaf un.

Gall y cyfansoddion hyn gynnwys unrhyw nifer o elfennau eraill gan gynnwys hydrogen, nitrogen, ocsigen a'r halogenau yn ogystal â ffosfforws, silicon a swlffwr [1][2][3]

Mae yna gant a mil o wahanol fathau o gyfansoddion organig ac felly gellir eu cymhwyso ar gyfer y byd real ar raddfa fawr iawn. Dyma sail plastig ei hun yn ogystal â cyffuriau, petrocemegolion, bwydydd, ffrwydron a phaent o bob lliw a llun. Dyma ydy sail prosesau bywyd ei hun.

Cyfeiriadau golygu

  1. Robert T. Morrison, Robert N. Boyd, a Robert K. Boyd, Organic Chemistry, 6ed Rhifyn (Benjamin Cummings, 1992, ISBN 0-13-643669-2) - h.y. "Morrison and Boyd"
  2. John D. Roberts, Marjorie C. Caserio, Basic Principles of Organic Chemistry,(W. A. Benjamin, Inc. ,1964)
  3. Richard F. and Sally J. Daley, Organic Chemistry, Online organic chemistry textbook. Ochem4free.info

Gweler hefyd golygu