Dora Marsden
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Dora Marsden (5 Mawrth 1882 - 13 Rhagfyr 1960) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, awdur ac yn benaf am ymgyrchu dros hawliau menywod.
Dora Marsden | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mawrth 1882 Marsden |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1960 Dumfries |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, swffragét, golygydd, athronydd, gohebydd gyda'i farn annibynnol, ffeminist |
Fe'i ganed (fel yr awgryma'i henw) ym mhentref diwydiannol Marsden, Swydd Efrog ar 5 Mawrth 1882; bu farw yn Dumfries.[1][2][3][4]
Torrodd Marsden oddi wrth y sefydliad swffragetaidd (yn enwedig Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, neu'r Women's Social and Political Union), er mwyn sefydlu cyfnodolyn a fyddai'n rhoi lle i leisiau mwy radical. Mae ei chyfraniad i fudiad y swffraget yn fawr; beirniadodd y WSPU a'r Pankhursts, yn bennaf drwy ei chylchgrawn The Freewoman.
Honna rhai beirniaid llenyddol iddi fod yn rhan o ddeor syniadaeth moderniaeth lenyddol tra bod eraill yn gwerthfawrogi ei chyfraniad at ddealltwriaeth o Egoism.
Magwraeth a choleg
golyguGanwyd Dora Marsden ar 5 Mawrth 1882 i rieni dosbarth gweithiol, sef Fred a Hannah, ym mhentref Marsden, Swydd Efrog. O ganlyniad i drafferthion economaidd yng nghwmni Fred, bu'n rhaid iddo ymfudo i'r Unol Daleithiau yn 1890, gan ymgartrefu yn Philadelphia gyda'i fab hynaf.[5] Gweithiodd y fam, Hannah fel gwniadwraig er mwyn cynnal gweddill y teulu, a oedd mewn cryn dlodi pan oedd Marsden yn blentyn.[6] Roedd Dora'n un o'r genedlaeth gyntaf i elwa o Ddeddf Addysg elfennol 1870, gan lwyddo i fynychu'r ysgol fel plentyn, er gwaethaf ei hamgylchiadau tlawd.
Bu'n fyfyriwr galluog, gan weithio fel tiwtor yn 13 oed, cyn derbyn Ysgoloriaeth y Frenhines yn ddeunaw oed, a alluogodd hi i fynychu Coleg Owens ym Manceinion (a ail-enwyd yn ddiweddarach yn "Brifysgol Victoria"). Sefydlwyd y coleg hwn yn 1851 gan John Owens, a hannai o Sir y Fflint ac a arbenigai mewn tecstiliau. [7][8]
Yn 1903, graddiodd Marsden o'r coleg a dechreuodd addysgu mewn ysgol am rai blynyddoedd, gan ddod yn brifathrawes o'r Ganolfan Athrawon-Disgyblion Altrincham (the Altrincham Teacher-Pupil Center) yn 1908.
Ymgyrchu
golyguYn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Owens, daeth i adnabod Christabel Pankhurst, Teresa Billington-Greig, a ffeministiaid cynnar eraill, a daeth yn rhan o fudiad pleidleisiau'r merched (neu "etholfraint"), mudiad a oedd yn tyfu'n sydyn ym Manceinion.
Ym mis Hydref 1909, cafodd Marsden ei harestio gyda sawl aelod arall o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU) am wisgo regalia academaidd llawn ac ymyrryd ar araith Canghellor y brifysgol, gan fynnu y dylai wneud datganiad a oedd yn gwrthwynebu bwydo-gorfodol carcharorion a oedd ar ympryd (streic newyn). Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, torrodd i mewn i Theatr Empire Southport a chododd ei hun i mewn i'r cwpola, lle bu'n aros 15 awr er mwyn gweiddi ar draws Winston Churchill, a oedd ar y pryd yn Ysgrifennydd Cartref, tra oedd yn siarad mewn rali etholiad.
Oherwydd ymrwymiad Marsden i'r achos cynigiwyd swydd weinyddol iddi yn y WSPU, a gadawodd ei swydd fel prifathrawes ym 1909.[9] Er ei bod yn ymroddedig i'r mudiad ffeministaidd cynnar, roedd ei hegwyddorion cryf Marsden a'i natur annibynnol yn aml yn arwain at wrthdaro ag arweinyddiaeth y WSPU, gan na allent ei rheoli. Ym 1911, cytunodd Marsden gyda'r Pankhursts i ymddiswyddo o'i swydd gyda'r WSPU. Collodd ei ffydd yn y WSPU, ond daliodd i gredu yn y mudiad menywod ehangach, roedd hi'n benderfynol o ddod o hyd i ffyrdd eraill o weithredu.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. "Dora Marsden". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad marw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. "Dora Marsden". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ "Dora Marsden". Spartacus Education. N.p., n.d. Web. 26 Chwefror 2013."Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2013. Cyrchwyd 28 Chwefror 2013. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ Clarke, Bruce. "Dora Marsden and Ezra Pound: "The New Freewoman" and "The Serious Artist"." University of Wisconsin Press 33.1 (1992): 91–112. Web. 24 Chwefror 2013.
- ↑ Man gwaith: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 29 Ionawr 2023.
- ↑ Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 17 Rhagfyr 2022. Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 25 Medi 2023.
- ↑ Franklin, Cary (2002): Marketing edwardian feminism: Dora Marsden, votes for women and the freewoman, Women's History Review, 11:4, 631–642.