Mae Dramma giocoso (Eidaleg, yn llythrennol: drama gyda jôcs; lluosog: drammi giocosi) yn enre o opera bu'n gyffredin yng nghanol y 18g. Mae'r term yn gyfangiad o drama giocoso per musica ac yn disgrifio libreto (testun) yr opera. Datblygodd y genre yn nhraddodiad opera Napoli, yn bennaf trwy waith y dramodydd Carlo Goldoni yn Fenis. Yn nodweddiadol, defnyddiodd drama giocoso olygfa buffo mawreddog (comig neu ffars) fel uchafbwynt dramatig ar ddiwedd act. Roedd testunau Goldoni bob amser yn cynnwys dwy act hir gyda diweddglo estynedig, ac yna trydedd act fer. Gosododd y cyfansoddwyr Baldassare Galuppi, Niccolò Piccinni, a Joseph Haydn destunau Goldoni i gerddoriaeth.

Dramma giocoso
Enghraifft o'r canlynolopera genre Edit this on Wikidata
Mathdrama-gomedi, opera Edit this on Wikidata

Yr unig operâu o'r genre hwn sy'n dal i gael eu llwyfannu'n aml yw fersiynau Don Giovanni (1787) gan Mozart a Da Ponte, Così fan tutte Mozart (1790), L'italiana in Algeri (1813) a La Cenerentola (1817) gan Rossini, a L'elisir d'amore (1832) gan Donizetti.

Cyfeiriadau

golygu
  • John Stone, "Mozart's Opinions and Outlook: Opera" in "The Mozart Compendium" gol. HC Robbins Landon, Thames and Hudson, Llundain 1990.
  • Eberhard Thiel, Sachwörterbuch der Musik. Stuttgart: Kröner, 1984.