Y grefft neu sbort o esgyn i fyny rhywbeth - fel rheol carreg, craig neu glogwyn - er mwyn difyrrwch neu'r sialens ynddo ei hun yw dringo. Mae'n cynnwys y grefft o ddringo mynyddoedd (mynydda), ond nid yw mynydda yn golygu dringo o reidrwydd (gellir cyrraedd copa gan gerdded yn unig) a gellir dringo pethau eraill heblaw mynyddoedd, e.e. clogwynni arfordirol neu garreg fawr. Hyd yn oed pan ddringir clogwyn ar fynydd does dim rhaid i'r dringwr fynd yn ei flaen i'r copa: nid yw pob mynyddwr yn ddringwr ac nid yw pob dringwr yn fynyddwr.

Y dringwr Owen Glynne Jones o'i lyfr Rock-climbing in the English Lake District. Keswick, Cumberland County, England: G.P. Abraham & Sons, 1911
Dringo Fitz Roy, Yr Ariannin.

Mae dringo fel sbort yn hytrach na difyrwaith yn ddatblygiad cymharol ddiweddar. Un o'r bobl cyntaf i gymryd y grefft o ddifri oedd y Cymro Syr William Lloyd (29 Rhagfyr 1782 - 16 Mai 1857).

Eryri yw un o'r lleoedd sy'n medru hawlio fod yn fan geni dringo. Bu gan yr ardal ei ran yn natblygiad mynydda hefyd, ond mae'n enwog ymhlith dringwyr yng ngwledydd Prydain fel magwrfa dringwyr fel Joe Brown - a gysylltir â chlogwynni Nant Peris a'r Wyddfa, e.e. Dinas Cromlech a Chlogwyn Du'r Arddu - a'r Cymro Ron James.

Gweler hefyd golygu