Joe Brown
Dringwr a mynyddwr o Sais oedd Joe Brown (26 Medi 1930 – 15 Ebrill 2020).[1] Ganed ef yn Ardwick, Manceinion, a daeth i amlygrwydd fel dringwr yn y 1950au, ym aml yng nghwmni Don Whillans.
Joe Brown | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 26 Medi 1930 ![]() Manceinion ![]() |
Bu farw | 15 Ebrill 2020 ![]() Llanberis ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | dringwr mynyddoedd, dringwr ![]() |
Gwobr/au | CBE ![]() |
Chwaraeon |
Bu'n dringo llawer yn Eryri, yn enwedig ar glogwyni Bwlch Llanberis, yn cynnwys Dinas y Gromlech, a Chlogwyn Du'r Arddu, lle arloesodd nifer o lwybrau enwog. Bu hefyd yn dringo yn yr Alpau a'r Himalaya; yn 1955 ef a George Band oedd y cyntaf i ddringo Kangchenjunga. Yn 1956 dringodd ef ac Ian McNaught-Davis gopa gorllewinol Tŵr Mustagh yn y Karakoram am y tro cyntaf.
Yn 1966 symudodd ef a'i wraig, Val, i bentref Llanberis ac agor siop offer mynydda yno. Ddeng mlynedd yn ddiweddarch, agorodd siop arall yng Nghapel Curig.
Bu farw yn ei gartref yn Llanberis yn 89 oed, wedi salwch.
-
Siop Joe Brown yn Llanberis.
-
Tu fewn i'r Siop
Llyfryddiaeth
golygu- Joe Brown, The Hard Years (1967).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Climbing legend Joe Brown has died (en) , Daily Post, 16 Ebrill 2020.