Bwlch Drws Ardudwy
bwlch rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach
(Ailgyfeiriad o Drws Ardudwy)
Bwlch yn y Rhinogydd yng Ngwynedd yw Bwlch Drws Ardudwy. Arferai'r bwlch, sydd rhwng Rhinog Fawr a Rhinog Fach, fod o bwysigrwydd mawr yn y Canol Oesoedd fel cyswllt rhwng Ardudwy ar yr ochr orllewinol i'r Rhinogau a'r ardaloedd i'r dwyrain.
Math | bwlch |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.83148°N 3.995661°W |
Gellir cyrraedd y bwlch o Gwm Nantcol, gan ddechrau ger ffermdy Maesygarnedd, man geni John Jones, Maesygarnedd. Llifa Afon Cwmnantcol o waelod ochr orllewinol Bwlch Drws Ardudwy i ymuno yn Afon Artro ger Pentre Gwynfryn.