Afon Artro

afon yng ngogledd Cymru

Afon yng Ngwynedd, Cymru, yw Afon Artro. Mae ganddi hyd o 4.5 milltir (7 km). Mae'n llifo i mewn i Fae Ceredigion

Afon Artro
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr4 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8617°N 4.0267°W Edit this on Wikidata
TarddiadLlyn Cwm Bychan Edit this on Wikidata
AberMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
Map

Mae'r afon yn tarddu yn y Rhinogau, gyda nifer o nentydd yn llifo i Lyn Cwm Bychan. Wedi gadael y llyn, mae'r afon yn llifo tua'r de-orllewin i lawr Dyffryn Artro. Yn fuan ar ôl gadael y llyn, mae'r afon fechan o Lyn Eiddew-mawr yn ymuno â hi, yna, wedi mynd heibio gwarchodfa natur Coed Crafnant mae Afon Cwmnantcol yn ymuno â hi. Llifa tua'r gorllewin, drwy bentref Llanbedr cyn troi tua'r gogledd-orllewin i gyrraedd y môr ger Llandanwg.[1]

Pan gafodd cwmwd Ardudwy ei rannu'n ddau, Afon Artro oedd y ffin rhwng Ardudwy Uwch Artro ac Ardudwy Is Artro.

Cyfeiriadau

golygu