Afon Cwmnantcol

afon yng Ngwynedd, Cymru

Afon yn ne Gwynedd, Cymru, yw Afon Cwmnantcol. Mae'n tarddu ym mryniau'r Rhinogau yn ardal Ardudwy ac yn llifo i Afon Artro ger Pentre Gwynfryn. Hyd: tua 6 milltir.

Afon Cwmnantcol
Afon Cwmnantcol o Bont Cwmnantcol
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8207°N 4.0743°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn Perfeddau, rhwng Y Llethr a Rhinog Fach, yw prif darddle'r afon. Ymuna ffrwd arall ger Bwlch Drws Ardudwy ac wedyn mae'r afon yn llifo ar gwrs gorllewinol i lawr Cwm Nantcol, sy'n rhoi iddi ei henw. Tua milltir i lawr o Fwlch Drws Ardudwy mae'n llifo heibio ffermdy hen Maesygarnedd, cartref John Jones, Maesygarnedd (1597–1660), un o'r gwŷr a arwyddodd warant marwolaeth y brenin Siarl I o Loegr a brawd-yng-nghyfraith i Oliver Cromwell, Arglwydd Amddiffynnwr Lloegr.

Mae'n cyrraedd ei chymer ar afon Artro ger gwarchodfa natur Coed Lletywalter, chwarter milltir i'r dwyrain o Bentre Gwynfryn, ar ôl llifo dan Bont Cwmnantcol sy'n cael ei chroesi gan y lôn sy'n dringo'r cwm.

Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato