Dulys
Smyrnium olusatrum | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Apiales |
Teulu: | Apiaceae |
Genws: | Smyrnium |
Enw deuenwol | |
Smyrnium olusatrum Carl Linnaeus |
Planhigyn blodeuol ydy Dulys sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Smyrnium olusatrum a'r enw Saesneg yw Alexanders. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Alisantr, Alisantr y Ddulys, Alisantri, Bwydlys y Mynachod, Dulys Cyffredin, Elisandyr, Gauhelogan a Llysiau Crochan Ddu.
Tyf yn dalsyth i uchder o tua metr a hanner, gyda bonyn soled, sy'n troi'n wag gydag amser. Ceir dannedd ar y dail.[1] Arferid ei fwyta, nes y daeth seleri yn fwy poblogaidd.
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Webb, D.A., Parnell, J. and Doogue, D. 1996. An Irish Flora. Dundalgan Press Ltd.Daldalk. ISBN 0-85221-131-7