Llyfr Blegywryd
Llyfr Blegywryd yw'r term a ddefnyddir gan ysgolheigion i ddynodi'r dull ar y Cyfreithiau Cymreig canoloesol a ddatblygodd yn Nyfed yn yr Oesoedd Canol. Fe'i gelwir hefyd yn 'Ddull Dyfed' (Saesneg, Demetian Code, yn nosbarthiad Aneurin Owen yn ei gyfrol Ancient Laws and Institutes of Wales, 1840). Gyda Llyfr Iorwerth ('Dull Gwynedd') a Llyfr Cyfnerth (a elwir hefyd, yn gamarweiniol, yn 'Ddull Gwent'), Llyfr Blegywryd yw un o'r tri dull taleithiol ar Gyfraith Hywel.
Enghraifft o'r canlynol | system gyfreithiol |
---|---|
Rhan o | Cyfraith Cymru |
Y prif nodweddion ar y grŵp o lawysgrifau a elwir yn Llyfr Iorwerth mewn cymhariaeth a'r dulliau eraill yw:
- Yn ôl traddodiad, golygwyd y Gyfraith yn y dull hwn gan gŵr o'r enw Blegywryd ysgolhaig, clerigwr (fe ymddengys) o Ddyfed a ddewiswyd gan y brenin Hywel Dda i ysgrifennu'r drefn newydd ar gyfreithiau Cymru a wnaed yn ei deyrnasiad ef (yn ôl testunau Llyfr Blegywryd). Ceir cyfeiriad at un Blegywryd fab Owain (Bledcuirit filius Eniaun) dan gofnod am y flwyddyn 955 yn Llyfr Llandaf, ond ni ellir profi'r uniaethiad ag awdur Llyfr Blegywryd yn derfynol. Awgrymodd Syr J. E. Lloyd ei fod yn ŵr o Went.
- Llyfr Blegywryd yw'r mwyaf "ceidwadol" o'r tri Dull o ran trefn a chynnwys.
- Ceir rhai adrannau a gysylltir yn arbennig â Dyfed ac yn enwedig trefn eglwysig y dalaith honno, er enghraifft Saith Esgobty Dyfed. Awgryma hyn mai clerigwr neu glerigwyr fu'n gyfrifol am y Dull a gellid cynnig ei fod yn gysylltiedig â Thyddewi.
- Yn yr un modd ag y mae Llyfr Iorwerth yn pwysleisio safle arbennig llys Aberffraw yng Ngwynedd, ceir pwyslais ar bwysigrwydd Dinefwr, safle llys brenhinoedd Deheubarth.
- Ceir cyfresi hir o Drioedd yn crynhoi rheolau'r gyfraith.
Llyfryddiaeth
golygu- Stephen J. Williams a J. Enoch Powell (gol.), Llyfr Blegywryd (Caerdydd, 1942; ail argaffiad 1961).
- Morfydd E. Owen, 'Y Cyfreithiau', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1974)