Y Dwyrain Agos

(Ailgyfeiriad o Dwyrain Agos)

Term daearyddol yw'r Dwyrain Agos sy'n cyfeirio at ardal yn y Dwyrain Canol. Mae ei union ddiffiniad yn amrywio.

     Diffiniad archaeolegol a hanesyddol modern o'r Dwyrain Agos     Diffiniad ehangach o'r Dwyrain Agos

Cyn 1918, yn ystod dyddiau Ymerodraeth yr Otomaniaid, roedd y term yn cynnwys Twrci, y Balcanau, y Lefant, a'r Aifft. Yn ystod y cyfnod hwn roedd y Dwyrain Canol yn cyfeirio at Arabia, y Gwlff, Persia, Mesopotamia, ac Affganistan.[1]

Heddiw, mae'r term yn aml yn cynnwys gwledydd y Dwyrain Canol sy'n ffinio â Môr y Canoldir, gan gynnwys gogledd-ddwyrain Affrica a de-orllewin Asia.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Mansfield, Peter. A History of the Middle East (Llundain, Penguin, 2013 [1991]), 4ydd argraffiad wedi'i adolygu gan Nicolas Pelham, t. 1.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.