Dyffryn Ardudwy (siambr gladdu)

Perthyn i Oes Newydd y Cerrig (y 'Neolithig') mae Siambr Gladdu Dyffryn Ardudwy, Meirionnydd, Gwynedd.[1] Dyma'r math cynharaf o siambrau claddu drwy wledydd Prydain. Fe'u lleolir y tu ôl i'r ysgol leol, yn edrych dros y môr, tua'r gorllewin.

Dyffryn Ardudwy (siambr gladdu)
Mathsiambr gladdu Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadDyffryn Ardudwy Edit this on Wikidata
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.78471°N 4.09421°W Edit this on Wikidata
Un o'r ddwy gromlech sydd yn Nyffryn Ardudwy

Gerllaw pentref Dyffryn Ardudwy saif dwy gromlech, sy'n cael eu hadnabod fel Coetan Arthur (mae dwy arall o'r un enw yng Nghymru) gan rai, Siambrau Claddu Dyffryn Dyffryn Ardudwy a Cherrig Arthur gan eraill. 'Beddrod Porth' yw enw 'r math hwn o gromlech a dim ond yn Iwerddon, Cernyw, Ynys Môn ac ym Meirionnydd y ceir y math hwn o gromlech.

MynediadGolygu

Mae'r safle yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir ei gyrraedd yn rhwydd o'r pentref trwy ddilyn yr arwyddbyst.

CyfeiriadauGolygu

  1. "Cadw". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-14. Cyrchwyd 2009-03-08.