Nofel hanes a ditectif gan Gwen Pritchard Jones yw Dygwyl Eneidiau a enillodd iddi Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a'r Cylch 2006. Roedd y Nofel hefyd ar Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2007.

Dygwyl Eneidiau
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurGwen Pritchard Jones
CyhoeddwrGwasg Gwynedd
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncNofelau Cymraeg
Argaeleddallan o brint
ISBN9780860742302

Mae'n stori am lofruddiaeth ficer ar noson Dygwyl Eneidiau, stori ddirgel yw hi, sydd wedi ei seilio ar ardal Aberdaron, cyn ddechrau'r Rhyfel Cartref yn 1642.

Siôn Rhisiart yw prif gymeriad y nofel. Bu'n rhaid iddo adael Cymru pan oedd yn blentyn ond, ac yntau'n filwr cefnog sy'n berchen tir ym Mohemia, dychwela i ddarganfod y gwir y tu cefn i ddirgelwch y llofruddiaeth a'i ymadawiad gorfodol sydyn. Wrth gwrs, ac yntau wedi teithio Ewrop a'r llywodraeth yn ochelgar o ysbïwyr ac o Iwerddon mae ei ddiogelwch ef mewn mwy o berygl.

Un o gryfderau Gwen Pritchard yw ei gallu i dynnu darlun clir rhyfeddol o fywyd y cyfnod gyda'r dillad yn cael cryn sylw ynghyd â'r paratoi at galan, y bwyd a'r ddiod, sgwrs yr uchelwyr ac yn arbennig gwleidyddiaeth y cyfnod gyda'r anghydfod a'r tensiwn rhwng San Steffan dan arweiniad Pym a'r brenin Siarl yn effeithio fwyfwy ar fywydau pawb. Diddorol yw'r darlun o agwedd y Cymry at grefydd gyda Phabyddiaeth yn gysgod tenau a Phrotestaniaeth yn arglwyddiaethu gyda'r hen arferion yn dal eu gafael megis ymladd ceiliogod a dathlu Calan Gaeaf.

Llyfryddiaeth golygu