Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006 rhwng 5 a 12 Awst 2006 ar hen safle Gwaith Dur Felindre, Sir Abertawe. ychydig oddi ar draffordd yr M4. Ymhlith pynciau llosg yr Eisteddfod oedd y penderfyniad i ddileu seremoni'r Cymru a'r Byd a bu cryn dipyn o feirniadu hefyd ar wyneb carregog y maes. Roedd y pafiliwn yn un pinc llachar yn wahanol i'r un arferol o streipiau glas a melyn. Roedd wedi ei gynllunio ar gyfer un o ymgyrchoedd elusen Gofal Cancr y Fron a chytunodd yr Eisteddfod i'w gael yn lle'r un arferol.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad2006 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadFelindre Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe a'r Cylch 2006
 ← Blaenorol Nesaf →
Lleoliad hen safle Gwaith Dur Felindre
Cynhaliwyd 5-12 Awst 2006
Archdderwydd Selwyn Iolen
Daliwr y cleddyf Ray o'r Mynydd
Cadeirydd Heini Gruffudd
Llywydd Prys Morgan
Nifer yr ymwelwyr 155,441
Enillydd y Goron Eigra Lewis Roberts
Enillydd y Gadair Gwynfor ab Ifor
Gwobr Daniel Owen Gwen Pritchard Jones
Gwobr Goffa David Ellis Aled Wyn Davies
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Medwen Parry
Gwobr Goffa Osborne Roberts Rhian Lois
Gwobr Richard Burton Enfys Gwawr Loader
Y Fedal Ryddiaith Fflur Dafydd
Medal T.H. Parry-Williams Marilyn Lewis
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Stuart Imm
Tlws y Cerddor Euron J. Walters
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Katherine Allen
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Aled Rhys Hughes
Medal Aur am Grefft a Dylunio Carol Gwizdak
Gwobr Ivor Davies André Stitt
Gwobr Dewis y Bobl Sara Moorhouse
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Partneriaeth Richard Rogers
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eirwen Gwynn

Am y tro cyntaf yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol Archesgob Caergaint Y Parchedicaf Dr Rowan Williams a anerchodd y gynulleidfa yng ngwasanaeth agoriadol yr Eisteddfod fore Sul. Mae Rowan Williams yn hannu o Abertawe.

Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Prif Gystadlaethau
Y Gadair Tonnau "Gwenno" Gwynfor ab Ifor
Y Goron Fflam "Gwyfyn" Eigra Lewis Roberts
Y Fedal Ryddiaith Atyniad "Matigari" Fflur Dafydd
Gwobr Goffa Daniel Owen Dygwyl Eneidiau "Ebolion" Gwen Pritchard Jones
Tlws y Cerddor Dadeni "Johannes" Euron J. Walters

Enillydd y gadair oedd Gwynfor ab Ifor o Sling ger Tregarth a sgwennodd awdl ar y thema 'Tonnau'. Derbyniodd gadair a gwobr ariannol o £750.00. Dyluniwyd y gadair gan Elonwy Riley o Lansawel, Llandeilo ac fe'i gwnaethpwyd gan Tony Graham a Paul Norrington yng Ngholeg Sir Gâr.

Enillydd y goron oedd Eigra Lewis Roberts am ei gwaith 'Y Ffarwel Perffaith' a oedd am fywyd cythryblus Sylvia Plath. Y beirniaid oedd Menna Elfyn, Damian Walford Davies a Gwyneth Lewis. Roedd y goron wedi ei chyflwyno er cof am y cyn-Archdderwydd, Dafydd Rowlands. Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd Fflur Dafydd o Gaerfyrddin am ei gwaith Atyniad. Y beirniaid oedd Derec Llwyd Morgan, Jane Aaron a Grahame Davies. Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Gwen Pritchard Jones o Bant Glas. Dyma ei nofel gyntaf i oedolion. Enillydd Cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn oedd Stuart Imm o Gwmbrân, sydd bellach yn diwtor Cymraeg. Enillydd y Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg oedd Eirwen Gwynn o Dal-y-bont.

Gweler hefyd golygu

Ffynonellau golygu

 
Clawr Cyfansoddiadau a Beirniadaethau 2006