Eädyth Crawford

cyfansoddwr

Cantores, cyfansoddwr a chynhyrchydd gerddoriaeth electronig yr enaid a pop Bajan-Gymreig yw Eädyth Crawford (adnabyddir hefyd fel Eady Crawford), sy'n canu yn Gymraeg a Saesneg.

Eädyth Crawford
GanwydRhydychen Edit this on Wikidata
Man preswylRhydychen, Aberaeron Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, DJ producer, cyfansoddwr Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.eadyth.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Eädyth yn Rhydychen ond pan yn un flwydd oed ysgarodd ei rhieni ym 1999, daeth ei mam ynghyd a'i rhieni hi i fyw i Aberaeron.[1] Mae ei mam yn Saesnes o dde-ddwyrain Lloegr ond treuliodd gwyliau ei phlentyndod gyda ei thad-cu a mam-gu yn Niserth, Powys ac roedd wastad eisiau magu ei phlant yng Nghymru.[2]

Mae teulu ei thad yn hanu o Barbados ac fe ymfudodd y teulu i Reading yn y 1950au. Roedd ei thad-cu mewn band sgiffl. Mae ei threftadaeth Bajan a'i theulu estynedig yn Barbados yn bwysig iddi ac mae'n dweud bod ganddi hunaniaeth Gymraeg a Bajan.[1]

Mae'n un o bump o blant. Mae ganddi chwaer, Kizzy, sydd hefyd yn gantores.[3][1] Wrth dyfu i fyny roedd cerddoriaeth yn bwysig iddi wrth gystadlu yn gystadlaethau canu fel yr Eisteddfod ers iddi fod yn 4 mlwydd oed.[4]

Gyrfa gerddorol

golygu

Mae natur, profiadau heriau yn y gorffennol a heriau bywyd yn dylanwadu ar ei cherddoriaeth. Yn ôl Eädyth mae'r gallu i ddefnyddio'r iaith Gymraeg yn ganeuon yn hudol.[4] Mae hefyd yn canu dros bynciau gwleidyddol fel annibyniaeth a chydraddoldeb i fenywod. Ym Medi 2019, canodd Eädyth Calon Lân gyda'i chwaer, Kizzy, mewn rali YesCymru yn Merthyr Tudful, gan datgan ei chefnogaeth dros annibyniaeth i Gymru.[5]

Mae Eädyth yn hoffi cydweithio gydag artistiaid arall wrth greu cerddoriaeth.[3] Roedd yn rhan o prosiect Gorwelion yn 2018 yn ogystal â phrosiect datblygu talent Forté.[3][6]

Ym Mehefin 2020 roedd yn rhan o'r cynllunio cerddorol ar gyfer sioe ar-lein, Wolfie, gan National Theatre Wales.[7]

Yn 2020 enillodd Wobr Triskel, sef ar gyfer cerddorion sy'n dod i'r amlwg, gan Wobr Gerddoriaeth Gymreig.[8]

Fe wnaeth Eädyth ar y cyd gyda Asha Jane cymryd rhan yn rhaglen 'Maes B:Merched yn Gwneud Miwsig' oedd ar S4C ar 6 Awst 2021.[9]

Disgyddiaeth

golygu

Senglau

golygu
Teitl Ar y cyd gyda Label Rhyddhawyd
Cymru Ni Izzy Rabey 2021
Inhale / Exhale[10] Libertino Records 2021
Cydraddoldeb i Ferched Urdd I KA CHING 2021
Paradwys Cait, Foxxglove 2021
Breuddwyd / Dream UDISHIDO 2021
Mwy o Gariad Endaf Roberts High Grade Grooves 2020
Hope Asha Jane Later Records 2020
Newidiadau / Changes Shamoniks UDISHIDO 2020
Tyfu / Grow UDISHIDO 2020
Diogel / Safe Space Shamoniks UDISHIDO 2020
Penderfyniad UDISHIDO 2020
Microwave 2020
Rhedeg / Run UDISHIDO 2020
Disgwyl Endaf Roberts, Ifan Dafydd High Grade Grooves 2020
Shots 2019
Tri dymuniad 2019
Sownd yn y canol Endaf Roberts 2019

Albymau ac EP

golygu
Teitl Ar y cyd gyda Label Rhyddhawd
Harddwch Du (EP) Ladies of Rage 2021
Infinite Beauty (EP) Izzy Rabey 2020
Mas O Ma (EP) Izzy Rabey UDISHIDO 2020
Eädyth x Shamoniks Shamoniks UDISHIDO 2019

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Eadyth a Kizzy" (PDF). Cylchgrawn Dysgu Cymraeg.
  2. (Saesneg) Kizzy Crawford Music. Kizzy Crawford (13 Medi 2019). Adalwyd ar 3 Mehefin 2020.
  3. 3.0 3.1 3.2 "BBC Wales - Horizons - EÄDYTH". BBC (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-01-20.
  4. 4.0 4.1 "Eädyth Crawford". BolSHE (yn Saesneg). 2020-09-29. Cyrchwyd 2022-01-20.
  5. "Sport and arts figures join independence rally" (yn Saesneg). 2019-09-07. Cyrchwyd 2019-09-11.
  6. "Eadyth, Global Music Match". Global Music Match (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-01-20.
  7. "Wolfie". National Theatre Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-01-20.
  8. "Deyah yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020, gyda'i halbwm 'Care City'". Golwg360. 2020-11-19. Cyrchwyd 2022-01-20.
  9. "Trysorau'r Eisteddfod Genedlaethol yn gefnlen i rai o artisiaid blaenllaw Cymru mewn rhaglen newydd". Golwg360. 2021-07-23. Cyrchwyd 2022-01-20.
  10. "Track: Eädyth – 'Inhale & Exhale': Valleys soul talent arrives on Libertino with words of wisdom". Backseat Mafia (yn Saesneg). 2021-05-31. Cyrchwyd 2022-01-20.

Dolenni allanol

golygu

Gwefan Eädyth Archifwyd 2022-01-20 yn y Peiriant Wayback