E. T. A. Hoffmann

sgriptiwr ffilm a chyfansoddwr a aned yn 1776

Llenor, cyfansoddwr, ac arlunydd o'r Almaen oedd Ernst Theodor Amadeus Hoffmann (ganwyd Ernst Theodor Wilhelm Hoffmann; 24 Ionawr 1776 – 25 Mehefin 1822).

E. T. A. Hoffmann
FfugenwE. T. A. Hoffmann Edit this on Wikidata
GanwydErnst Theodor Wilhelm Hoffmann Edit this on Wikidata
24 Ionawr 1776 Edit this on Wikidata
Königsberg Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 1822 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prwsia Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Königsberg Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfansoddwr, barnwr, cartwnydd dychanol, arlunydd, awdur plant, llenor, arweinydd, sgriptiwr, awdur ffuglen wyddonol, nofelydd, beirniad cerdd, drafftsmon, dyddiadurwr, critig, cyfarwyddwr, awdur storiau byrion Edit this on Wikidata
Adnabyddus amUndine, The Devil's Elixirs, The Nutcracker and the Mouse King, Mademoiselle de Scuderi, The Sandman, The Golden Pot, Master flea Edit this on Wikidata
Arddullopera Edit this on Wikidata
MudiadRhamantiaeth, German Romanticism, Romantic literature Edit this on Wikidata
PriodMaria Thekla Michaelina Hoffmann Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.etahg.de Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yn Königsberg, Prwsia, a chafodd ei fagu gan ei ewythr. Astudiodd gwyddor y gyfraith (Studium der Rechte) ym Mhrifysgol Königsberg, a gwasanaethodd fel swyddog y gyfraith Brwsiaidd yn y taleithiau Pwylaidd o 1800 i 1806. Gweithiodd fel arweinydd cerddorfa, beirniad cerdd, a chyfarwyddwr theatr gerdd yn Bamberg a Dresden hyd at 1814. Tua'r flwyddyn 1813, fe newidiodd un o'i enwau bedydd, Wilhelm, i Amadeus er cof am y cyfansoddwr Wolfgang Amadeus Mozart. Ymhlith cyfansoddiadau Hoffmann mae'r bale Arlequin (1811) a'r opera Undine (perfformiwyd 1816).

Cyhoeddodd pedair cyfrol o straeon dan y teitl Phantasiestücke in Callots Manier (1814–15). Ysgrifennodd dwy nofel, Die Elixiere des Teufels (1815–16) a Lebens-Ansichten des Katers Murr nebst fragmentarischer Biographie des Kapellmeisters Johannes Kreisler (1820–22), a dau gasgliad arall o straeon byrion, Nachtstücke (1817), a Die Serapionsbrüder (1819–21). Daeth Hoffmann yn enw cyfarwydd i ddarllenwyr Almaeneg, a bu ei straeon hefyd yn boblogaidd yn Lloegr, yr Unol Daleithiau, a Ffrainc. Llenor yn y dulliau ffantasi, arswyd a ffuglen Gothig oedd Hoffmann, a nodwedda'i waith gan naws ryfedd ac annaearol, elfennau'r macabr a'r goruwchnaturiol, ac archwiliadau o seicoleg a realedd ei gymeriadau.

Ym 1814 fe'i benodwyd i'r llys apêl ym Merlin, a daeth yn gynghorwr ym 1816. Bu farw yn 46 oed o barlys cynyddol, o ganlyniad i syffilis. Ysbrydolwyd sawl cyfansoddwr opera a bale gan straeon Hoffmann, gan gynnwys Richard Wagner (Die Meistersinger von Nürnberg, 1868), Léo Delibes (Coppélia, 1870), Jacques Offenbach (Les contes d'Hoffmann, 1881), Pyotr Ilyich Tchaikovsky (Shchelkunchik, 1892), a Paul Hindemith (Cardillac, 1926).