Dresden
Dinas hanesyddol yn nwyrain yr Almaen a phrifddinas talaith ffederal Sacsoni yw Dresden (Sorbeg: Drježdźany; sy'n deillio o'r Hen Sorbeg Drezdany - siglen neu orlifdir).
![]() | |
![]() | |
Math | dinas fawr, prif ganolfan ranbarthol, dinas, bwrdeistref trefol yr Almaen, ardal trefol Sachsen ![]() |
---|---|
Cysylltir gyda | Llwybr Ewropeaidd E55 ![]() |
Poblogaeth | 555,351 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Dirk Hilbert ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sacsoni ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 328.48 km² ![]() |
Uwch y môr | 112 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Elbe, Weißeritz, Lockwitzbach, Prießnitz, Kaitzbach, Lausenbach ![]() |
Yn ffinio gyda | Meissen District, Ardal Bautzen, Sächsische Schweiz-Osterzgebirge, Weißeritzkreis, Freital, Bannewitz, Dohna, Dürrröhrsdorf-Dittersbach, Heidenau, Gommern ![]() |
Cyfesurynnau | 51.05°N 13.74°E ![]() |
Cod post | 01067, 01326, 01309, 01069, 01097, 01099, 01159, 01127, 01307, 01129, 01279 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Dresden ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Dirk Hilbert ![]() |
![]() | |

Mae wedi ei lleoli yn nyffryn afon Elbe. Mae tystiolaeth archaeolegol ar yr ardal ddinesig yn dangos anheddiad yn y cyfnod Neolithig. Ceir y cyfeiriad cyntaf mewn dogfennau ym 1206 at Dresden fel cartref brenhinol ac etholiadol. Mae'r ddinas yn cael ei hadnabod hefyd fel "Florence ar y Elbe", yn wreiddiol oherwydd ei chasgliadau celfyddydol, ond hefyd oherwydd ei phensaernïaeth Baróc a Môr y Canoldir hardd ar hyd lan yr afon. Cafwyd llifogydd trwm yno ym mis Awst 2002[1] Archifwyd 2005-11-22 yn y Peiriant Wayback..
Yn ystod y 18g datblygodd diwydiant gwaith porslen pwysig yn y ddinas ac yn ei chyffiniau, a daeth yr enw Dresden yn gyfystyr â phorslen. Cafodd ei bomio'n drwm gan lu awyr Prydain yn yr Ail Ryfel Byd. Erbyn hyn, mae Dresden wrth wraidd clymdref Dresden, rhanbarth a ystyrir yn un o'r rhai mwyaf economaidd ddeinamig yn yr Almaen. Ynghyd ag ardaloedd trefol Chemnitz-Zwickau a Leipzig-Halle, mae'n rhan o driongl trefol enfawr talaith Sacsoni.
HanesGolygu
Ym 1933 roedd tua 5,000 o Iddewon yn Dresden; yn y blynyddoedd a ddilynodd cawsant eu diarddel a'u halltudio i wersylloedd crynhoi. Cafodd gwrth-Semitiaeth yn Dresden ei ddogfennu yn bennaf yn nyddiaduron Victor Klemperer. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, dim ond 41 Iddewon oedd yn byw yn y ddinas. Rhwng 1939 a 1945 hefyd carcharwyd nifer mewn gwersylloedd, yn bennaf yn y gwersylloedd yn Auschwitz a Flossenburg, barics yn y ddinas. Gorfu iddynt weithio yn y diwydiant arfau. Cafodd y banciau preifat oedd yn eiddo i deuluoedd Iddewig eu cysylltu o dan orfodaeth â Dresdner Bank. Roedd Dresden am ganrifoedd yn ganolfan filwrol. Yn y gogledd, roedd Dinas Albert yn ganolfan milwrol sylweddol, ac roedd yn ehangu o dan y Natsïaid.
Yn yr Ail Ryfel Byd daeth y cyrchoedd cyntaf i'r ardal ddinesig o'r awyr mor gynnar â mis Awst 1944. Daeth y prif gyrchoedd awyr ar Dresden mewn pedwar ton rhwng 13 a 15 Chwefror 1945. Cafodd rhannau helaeth o ardal y ddinas eu difrodi'n wael gan awyrennau bomio Prydeinig ac Americanaidd. Mae union nifer y dioddefwyr yn ansicr, gydag amcangyfrifon o'r nifer fu farw yn amrywio rhwng 350,000 a 25,000. Erbyn 6 Mai 1945, roedd y ddinas wedi'i chylchynnu gan y Fyddin Goch, ac ar 8 Mai ildiwyd y ddinas iddi.
OrielGolygu
- Dresden