Königsberg
Dinas Almaenig oedd Königsberg a safai ar leoliad y ddinas bresennol Kaliningrad, sydd yn brifddinas Oblast Kaliningrad, allglofan i Ffederasiwn Rwsia.
Lithograff lliw o ffotograff o Gastell Königsberg a Thŵr y Caiser Wilhelm yn y 1890au. | |
Math | safle archaeolegol, cyn anheddiad |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Rhanbarth Dwyrain Prwsia, Duchy of Prussia, Brandenburg-Prussia, Rhanbarth Dwyrain Prwsia, Prussia Province |
Gwlad | Prwsia |
Uwch y môr | 48 metr |
Cyfesurynnau | 54.71147°N 20.50931°E |
Sefydlwyd Königsberg gan y Marchogion Tiwtonaidd ym 1255, yn ystod Croesgadau'r Gogledd, ar safle Twangste, un o drefi hanesyddol yr Hen Brwsiaid. Ystyr Königsberg yw "Mynydd y Brenin", a chafodd ei henwi ar ôl Ottokar II, brenin Bohemia. Tyfodd yn borthladd pwysig yn y Môr Baltig ac ymunodd â'r Gynghrair Hanseatig ym 1340. Daeth yn brifddinas i Ddugiaeth Prwsia (1525-1701) a Dwyrain Prwsia (1772–1829, 1878–1945).
Datblygodd Königsberg yn ganolfan i ddeallusion, llenorion, ac arlunwyr Almaenig ac yn gartref i Brifysgol Albertina. Ymhlith yr enwogion a drigasant yno bu Simon Dach, Immanuel Kant, Käthe Kollwitz, E. T. A. Hoffmann, David Hilbert, Agnes Miegel, Hannah Arendt, a Michael Wieck. Siaradai'r boblogaeth Almaeneg yn bennaf o'r 13g hyd yr 20g, ac roedd hefyd yn ddinas bwysig i genhedloedd y Pwyliaid a'r Lithwaniaid.
Cafodd y ddinas ei ddirywio gan ymgyrch fomio'r Cynghreiriaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn ystod Brwydr Königsberg (1945). Cipiwyd y ddinas gan yr Undeb Sofietaidd a chafodd y boblogaeth Almaenig ei gyrru allan. Cafodd yr ardal ei hail-boblogi gan ddinasyddion Sofietaidd, a'i hail-enwi'n Kaliningrad ym 1946 er cof am Mikhail Kalinin.
Darllen pellach
golygu- Jamie Freeman, From German Königsberg to Soviet Kaliningrad: Appropriating Place and Constructing Identity (Llundain: Routledge, 2021).