Eco-sgolion
Mudiad rhyngwladol yw Eco-sgolion sy'n annog a hybu disgyblion ysgolion i gymryd diddordeb mewn materion amgylcheddol a codi ymwybyddiaeth am yr amgylchedd. Mae'r rhaglen yn adnodd dysgu ac mae'r meysydd pwnc yn cynnwys Ysbwriel, Lleihau Gwastraff, Cludiant, Byw'n Iach, Ynni, Dŵr, Tir yr Ysgol a Dinasyddiaeth Fyd-eang.
Disgyblion sy'n cymryd y prif rannau mewn cymryd penderfyniadau a chyfranogi er mwyn lleihau effaith amgylcheddol eu hysgol. Fel hyn, mae Eco-Sgolion yn ymestyn y tu hwnt i'r dosbarth ac yn datblygu agweddau o ddinasyddiaeth gyfrifol, gartref ac yn y gymuned ehangach.
Mae Baner Werdd Ryngwladol Eco-Sgolion, a roddir i ysgolion sydd wedi llwyddo'n dda gyda'u rhaglen, yn eco-label cydnabyddedig sy'n cael ei barchu am berfformio mewn addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy. Gweithgaredd tymor hir yw'r rhaglen Eco-Sgolion gyda'r wobr yn cael ei hail asesu a'u hadnewyddu bob dwy flynedd.
Cymru
golyguCeir Eco-Sgolion drwy'r 22 o awdurdodau lleol Cymru ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o ysgolion babanod, cynradd, uwchradd ac anghenion arbennig. Ar hyn o bryd mae 1600 o Eco-Sgolion wedi'u cofrestru yng Nghymru gyda 320 wedi llwyddo i ennill statws y Faner Werdd. Mae'r cyfan o'r defnyddiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac yn rhad ac am ddim i ysgolion sydd wedi cofrestru.
Mae'r cynllun yn dal i dyfu'n gyflym ac mae wedi derbyn cefnogaeth gan bron bob un o awdurdodau lleol Cymru yn ogystal ag ACCAC, ESTYN a nifer o sefydliadau amgylcheddol. Cyllidir y Rhaglen Eco-Sgolion gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac Ymwybyddiaeth Gwastraff Cymru. Rheolir y rhaglen yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus.
O ble daeth y rhaglen?
golyguYng Nghynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar yr Amgylchedd a Datblygu (Uwch Gynhadledd Rio de Janeiro) ym 1992 y sylweddolwyd fod angen rhoi rhan i bobl ifanc mewn canfod atebion i heriau amgylcheddol a datblygu cynaliadwy yn lleol.
O ganlyniad datblygwyd y rhaglen Eco-Sgolion ym 1994 gan y Sefydliad dros Addysg Amgylcheddol (FEE). Fe'i cyflwynwyd i'r DU ym 1995. Rheolir y rhaglen yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus, ac yn yr Alban fe'i rheolir gan Keep Scotland Beautiful a chan EnCAMS yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.[1]