Ynni adnewyddadwy

(Ailgyfeiriad o Ynni adnewyddol)

Egni sydd 'byth' yn gorffen yw egni adnewyddadwy. Mae'n groes i egni anadnewyddadwy sef egni a fydd yn dod i ben yn y 500 mlynedd nesaf.

Yr holl egni adnewyddadwy mae'r Ddaear yn ei dderbyn.

Cynhyrchir egni adnewyddadwy allan o adnoddau adnewyddadwy'r blaned.

Ynni niwclear golygu

Ceir dau fath o ynni atomig. Y cyntaf yw ymasiad niwclear, pan fo niwclysau elfen sydd â rhif atomig isel yn uno i ffurfio niwclews elfen drymach. Dyma'r broses sy'n digwydd yn yr haul, ac mae gwyddonwyr yn ceisio efelychu'r broses hon ar y ddaear i gynhyrchu trydan, ond mae llawer o waith yn dal i'w wneud oherwydd y tymheredd uchel sy'n angenrheidiol. Dyma "greal sanctaidd" y gwyddonydd gan nad oes ganddo wastraff peryglus. Ond gan nad yw wedi ei berffeithio, ni ellir ateb y cwestiwn: i ba raddau bydd ynni o ymasiad niwclear yn adnewyddadwy?

Nid yw'r ail fath, sef ymholltiad niwclear, yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn ôl llawer o wyddonwyr, er bod awdurdodau yn yr Unol Daleithiau'n datgan ei fod.

Egni solar golygu

Prif: Egni solar

Egni solar yw'r pelydrau gwres a golau sy'n dod o'r haul. Bu pobl ei ddefnyddio ers tro gan ddefnyddio technolegau amrywiol sydd wedi datblygu dros amser. Daw egni solar o'r haul, a cheir mwy o'r egni hwn nag unrhyw fath arall. Mae'r diwydiant hwn hefyd yn tyfu'n gynt nag unrhyw ddiwydiant cynaeafu egni arall: ceir 50% yn fwy pob blwyddyn, yn enwedig cynaeafu trydan drwy gelloedd ffotofoltaidd. Tywynnai'r haul 10,000 gwaith mwy o egni nac yr ydym ei angen.

Ceir tair ffordd wahanol o ddefnyddio pŵer yr haul yn uniongyrchol, sef celloedd solar, ffwrnais solar, a phaneli solar.

Egni gwynt golygu

Prif: Egni gwynt

Mae dyn ers canrifoedd wedi ceisio trawsnewidiad egni gwynt i ffurf ddefnyddiol megis symudiad carreg ar garreg mewn melin; datblygiad o hyn yw trawsnewid egni'r gwynt i egni trydanol neu egni cinetig. Mae gwynt yn bodoli gan fod rhai rhannau o'r blaned yn poethi'n fwy na rhannau eraill a bod canol (mewnol) y blaned yn boeth. Drwy i lafnau melinau gwynt droi tyrbin, trosglwyddir y symudiad hwn yn gerrynt trydanol. Mae'r gwaith o'i hadeiladu wedi dechrau yn y môr oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru o'r enw Gwynt y Môr gan Gwmni NPower Renewables. Hon fydd y fferm wynt ail fwyaf yn y byd.[1]

Egni dŵr golygu

Prif: Egni hydro

Pŵer hydro, pŵer hydrolig, neu egni dŵr yw'r pŵer sy'n ddeilliadol o rym symudiad dŵr a ddefnyddir i greu egni mwy defnyddiol. Mae symudiad dŵr hefyd yn medru troi tyrbin a chreu trydan, boed y llif naill ai mewn moroedd, afonydd neu lynnoedd. Gelwir hyn yn ynni hydro neu ynni dŵr. Un o'r datblygiadau cynharaf yng Nghymru parthed egni dŵr oedd cronfa ddŵr gerllaw pentref Tanygrisiau yn ardal Blaenau Ffestiniog yng Ngwynedd, sef Llyn Stwlan a agorwyd yn swyddogol ym 1961.

Egni geothermol golygu

Pŵer gwres a storiwyd yn y ddaear yw egni geothermol. Drwy ddefnyddio technoleg newydd tebyg iawn i'r oriadur (y pwmp gwres), mae egni geothermol medru cael ei 'chwyddo'. Mae dau fath gwahanol: pibellau tua dau fetr o dan wyneb y ddaear (lle mae'r tymheredd yn gyson 10 - 14 gradd ganradd yn gwagio eu hegni drwy gyfnewidfeydd gwres i system gwres canol y tŷ. Yn ail, pibellau hirion fertig sy'n manteisio ar wres uchel ganol y ddaear. Mae Ynys yr Iâ wedi bod yn defnyddio'r math hwn o drydan ers blynyddoedd.

Egni biomas golygu

Egni o blanhigion yw hyn. Gallwn ddistyllu alcohol allan o gorn melys neu siwgr - i droi peiriannau neu i symud cerbydau. Ystyrir hyn yn ddull adnewyddadwy gan y gellir tyfu ychwaneg o'r planhigion o fewn dim.

Cyfeiriadau golygu

Eginyn erthygl sydd uchod am yr amgylchedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato