Economeg glasurol

Ysgol feddwl ym maes economeg, neu economi wleidyddol, yw economeg glasurol a flodeuai yn bennaf yn yr Alban a Lloegr yn niwedd y 18g ac yn y 19g. Ei phrif feddylwyr oedd Adam Smith, Thomas Malthus, David Ricardo, a John Stuart Mill. Datblygasant damcaniaeth economi'r farchnad a'r grymoedd naturiol neu'r llaw anweledig sydd yn rheoli cynhyrchu a chyfnewid.

Seilir syniadaeth economaidd glasurol ar y rhagdybiaeth hanfodol taw'r unigolyn fel rheol sydd orau wrth benderfynu ynglŷn â diddordebau ei hunan. Gosododd Adam Smith strwythur sylfaenol y ddamcaniaeth hon yn ei gampwaith The Wealth of Nations (1776), sy'n dadansoddi sut mae mecanwaith prisoedd yn ymateb i'r galw am nwyddau a gwasanaethau drwy ddosbarthu adnoddau'r economi. Cesglid byddai ymddygiad unigolion er budd eu hunain, ac hynny mewn system economaidd gystadleuol, yn cynhyrchu lles er y gymdeithas oll. Cyfunwyd y dybiaeth hon â'r ddealltwriaeth o effeithiau buddsoddi cyfalaf a'r rhaniad llafur ar dwf economaidd, a dadleuai'r economegwyr clasurol felly o blaid masnach ryngwladol rydd, anymyrraeth lywodraethol yn y farchnad drwy bolisïau laissez-faire, ac ehangu'r gyfundrefn gyfalafol.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am economeg neu arianneg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.