Nofel gan Elen Wyn yw Edau Bywyd a gyhoeddwyd yn 2013 gan Wasg y Bwthyn. Man cyhoeddi: Caernarfon, Cymru.[1]

Edau Bywyd
AwdurElen Wyn
CyhoeddwrGwasg y Bwthyn
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi20/11/2013
ArgaeleddAr gael
ISBN9781907424540
GenreFfuglen

Nofel gyfoes a diddorol sy'n wead o ddarluniau trawiadol. Mae'r gyfrol, gan awdur sy'n rhoi cipolwg ar fywydau nifer o bobl ar un diwrnod ym mis Mehefin. Cipolwg, ie, ond fe ddown ni i sylweddoli'n raddol fod cysylltiad rhyngddyn nhw. Mae'r cwlwm yn un tyn na ellir ei dorri ...

Yr awdur

golygu

Un o Gaernarfon ydy Elen Wyn yn wreiddiol, ond mae hi bellach yn byw yn Llanelwy gyda’i gŵr, y cyflwynydd BBC Radio Cymru Dylan Jones, a’'u dau blentyn Ianto, 5, ac Alys, 4. Mae hi'’n ohebydd ar gyfer y rhaglen Newyddion 9 ar S4C a rhaglenni newyddion Radio Cymru. Dyma ei nofel gyntaf. Graddiodd Elen o Brifysgol Caerdydd gyda gradd mewn Newyddiaduriaeth. Yn 2000, yn dilyn cyfnod fel gohebydd newyddion ar Champion FM (Heart FM bellach), aeth Elen i weithio at yr BBC fel ymchwilydd; yn 2004 fe’'i penodwyd yn ohebydd newyddion ar Newyddion y BBC ar S4C.


Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.