Eddie Parris
Pêl-droediwr o Gymru oedd John Edward ("Eddie" neu "Ted") Parris (31 Ionawr 1911 – 1971) a chwaraeodd i glybiau Bradford Park Avenue, AFC Bournemouth, Luton Town, Bath City, Northampton Town a Cheltenham Town. Ef oedd y chwaraewr du cyntaf i gynrychioli Cymru.
Eddie Parris | |
---|---|
Ganwyd | 31 Ionawr 1911 Pwllmeurig |
Bu farw | 27 Chwefror 1971 Caerloyw |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | pêl-droediwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Bath City F.C., A.F.C. Bournemouth, Cheltenham Town F.C., Luton Town F.C., Northampton Town F.C. |
Safle | canolwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywyd
golyguGanwyd Eddie Parris ym Mhwllmeurig, Casgwent, Sir Fynwy, Cymru, i fam wyn a du Jamaicaidd,[1] a'r ddau ohonynt wedi'u geni yng Nghanada. Chwaraeodd dros Gasgwent tan i'w ddoniau dynnu sylw sgowtiaid Bradford Park Avenue A.F.C., a oedd bryd hynny yn glwb llewyrchus, ac fe gafodd ei arwyddo ar brawf yn 1928. Chwaraeodd ei gem gyntaf yn Ionawr 1929, a sgorio unig gol Bradford mewn gem gyfartal gyda Hull yng Nghwpan Lloegr. Cafodd le yn y tîm cyntaf wedi hynny, a byddai'n chwarae ar yr asgell chwith. Yn ystod ei yrfa yn Bradford Park Avenue, chwaraeodd 142 o gemau Cynghrair a Chwpan a sgoriodd 39 gol.
Yn Rhagfyr 1931 chwaraeodd Parris ei unig gem dros Wales yn erbyn Iwerddon yn Belffast, a dod yn y chwaraewr du cyntaf i gynrychioli Cymru mewn gem ryngwladol.
Fel hyn y disgrifiodd y Daily Mail ef yn 1932: 'Mae Parris yn gyflym, a chanddo reolaeth o'r bel, ac nid ychydig o athrylith pel-droed.'
Dioddefodd Parris anaf yn 1934, a chwaraeodd yn ddiweddarach i Bournemouth (1934–37), Luton, Northampton, Bath City, Cheltenham Town a Gloucester City. Gweithiodd ar ol hynny mewn ffatri ffrwydron rhyfel a ffatri awyrennau. Roedd yn byw yn Sedbury ger Casgwent,[2] a bu farw yn Swydd Gaerloyw, Lloegr, yn 1971.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Shipton, Martin (7 Awst 2008). "Move to honour Wales' first black footballer".
- ↑ Bradford City Football Club Museum, Eddie Parris: A Welsh Pioneer, 30 September 1912