Pwllmeurig

pentref yn Sir Fynwy

Pentref bychan yng nghymuned Matharn, Sir Fynwy, Cymru, yw Pwllmeurig[1] (Seisnigiad: Pwllmeyric).[2] Fe'i lleolir 1 filltir i'r de-orllewin o Gas-gwent, ar y briffordd A48

Pwllmeurig
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6286°N 2.6967°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPeter Fox (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Davies (Ceidwadwr)
Map

Hanes golygu

Mae'n rhan o blwyf eglwysig Matharn. Enwir y pentref ar ôl "pwll", sef bae neu fraich ar y rhan yma o Afon Hafren a oedd yn gorwedd rhwng y pentref a'r môr. Ymddengys fod 'Meurig' yn cyfeirio at Feurig ap Tewdrig, brenin Gwent (bl. 6g).

Yn ôl yr hanes a geir yn Llyfr Llandaf, roedd Meurig wedi cymryd drosodd fel brenin Gwent pan ymddeolodd ei dad Tewdrig i fynd yn feudwy yng nghlas Tyndyrn. Dywedir i'w dad ddod allan o'i ymddeoliad i'w gynorthwyo yn erbyn y Sacsoniaid oedd yn ceisio goresgyn Gwent ac i'r ddau orchfygu'r goresgynwyr ym Mrwydr Pont y Saeson. Clwyfwyd Tewdrig yn angeuol a bu farw ar ôl y frwydr. Claddodd Meurig ei dad ym Matharn, a rhoddodd y tir amgylchynnol (yn cynnwys ardal Pwllmeurig), yn rhodd i Esgobion Llandaf.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Hydref 2021
  3. [Wendy Davies, The Llandaff Charters (Aberystwyth, 1979)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Fynwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato