Edgar Leyshon Chappell
Cymdeithasegydd o Gymru oedd Edgar Leyshon Chappell (8 Ebrill 1879 – 26 Awst 1949). Roedd yn arloesydd ad-drefnu pentrefi a threfi, ac yn awdur.[1]
Edgar Leyshon Chappell | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ebrill 1879 Ystalyfera |
Bu farw | 26 Awst 1949, 1949 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cymdeithasegydd, cynlluniwr trefol, llenor |
Ganwyd ef ar 8 Ebrill 1879, yn Ystalyfera, yn fab i Alfred Chappell ac Ellen Watkins. Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yna bu'n brifathro ysgol Rhiw-fawr, Pontardawe am gyfnod. Amlygwyd ei ddiddordeb mewn materion cymdeithasol yn 1911, pan y cyhoeddwyd pamffledyn o'i waith, Gwalia's Homes, yn Ystalyfera.
Yn 1912 dechreuodd gynorthwyo'r Athro H. Stanley Jevons mewn gwaith ymchwil i faterion economaidd (gan mwyaf) - gwaith a olygai drafaelio a darlithio yn ne Cymru, ac ysgrifennu pamffledi ac erthyglau i'r wasg ar bynciau megis datblygiad pentrefi a threfi, gerddi, etc. Yn 1917 fe'i dewiswyd yn ysgrifennydd adran Gymreig comisiwn y Cabinet Rhyfel ar yr anesmwythder yn y byd diwydiannol; y flwyddyn ddilynol cafodd ei ddewis gan y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth i chwilio i mewn i gwestiwn cyflogau a thelerau gwaith gweithwyr ar y tir yn Ne Cymru. O 1918 hyd 1921 yr oedd yn arolygwr yn adran tai o dan y Weinyddiaeth Iechyd; yn 1921 fe'i gwnaethpwyd yn ysgrifennydd ymchwil daleithiol arbennig yn Ne Cymru a wneid gan yr un Weinyddiaeth.
Wedi iddo adael y Weinyddiaeth Iechyd bu Chappell yn ffurfio ac yn arolygu cwmnïau ynglŷn â datblygu tir, etc., yn Llundain a Chaerdydd - gw. rhestr o'r cwmnïau hyn yn Who's Who in Wales, 1937. Efe oedd un o sylfaenwyr (ac, am rai blynyddoedd, ysgrifennydd) y 'Welsh Housing and Development Association'; golygodd gyfrolau 1916, 1917, a 1918 The Welsh Housing and Development Year Book. Yn ddiweddarach bu'n ddiwyd yn ei waith ar wahanol gynghorau - cyngor sir Morgannwg yn eu plith - a'u pwyllgorau. Fe'i dewiswyd gan y Cyngor Cyfrin yn un o'i gynrychiolwyr ar Lys Llywodraethwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru; cafodd radd M.A. (‘er anrhydedd’) gan Brifysgol Cymru yn 1948. Ar hyd y blynyddoedd bu'n ysgrifennu ysgrifau, pamffledi, a llyfrau mwy; bu hefyd am gyfnod yn golygu'r Welsh Outlook. Dyma deitlau rhai o'i weithiau - Pithead and Factory Baths (gyda J. A. Lovat-Fraser ), 1920; The Housing Problem in Wales, 1920; History of the Port of Cardiff, 1939; Historic Melingriffith, 1940; The Government of Wales, 1943; Wake up, Wales … 1943; Cardiff's Civic Centre, a Historical Guide, 1946.
Pr. Alice, merch Caleb Thomas, Ystalyfera, a bu iddynt fab. Bu farw yng Nghaerdydd 26 Awst 1949.
Cyfeiriadau
golyguFfynonellau
golygu- Who's who in Wales, 1937;
- Western Mail, 27 Awst 1949.