Edith Nepean

nofelydd

Roedd Edith Nepean (187623 Mawrth 1960) yn awdures Gymreig yn yr iaith Saesneg. Fe'i ganwyd yn Llandudno yn 1876. Ei henw bedydd oedd Mary Edith Bellis ac roedd yn ferch i John Bellis o Landudno.[1]

Edith Nepean
Ganwyd1876 Edit this on Wikidata
Llandudno Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mawrth 1960 Edit this on Wikidata
Ealing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
TadJohn Bellis Edit this on Wikidata
PriodMolyneux Edward Nepean Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Daeth yn 'Nepean' wrth briodi Molyneux Edward Nepean (mab i Syr Evan Colville Nepean) ar 27 Chwefror 1899.[1]

Roedd hi'n weithredol yn y Groes Goch yng Nghaint. Drwy ei phriodas i deulu Nepean mae hi wedi ymddangos yn Burkes Peerage.[2] Bu farw ar 23/03/1960 yn Ealing, Llundain, LLoegr, ond mae ei bedd ym mynwent Pen y Gogarth, Llandudno.[1]

Gwaith llenyddol golygu

O 1920 ymlaen roedd hi'n ysgrifennu i'r cylchgrawn Picture Show ac i Film Pictorial yn cynnwys y gyfres Around the British Studios. Roedd hi hefyd yn sgriptwraig a nofelydd, ymhlith ei gwaith mae 34 o nofelau rhamantaidd yn cynnwys Gwyneth of the Welsh Hills (1917).

Enillodd wobr Meritul Cultural Romania yn rhannol am ei gwaith efo Sipsiwn Rwmania. Yn 1932 enillodd achos enllib yn erbyn Caradoc Evans ac roedd rhaid iddo olygu ei nofel Wasps 1933, cyn cyhoeddi.[1]

Llyfryddiaeth ddethol golygu

  • Gwyneth of the Welsh Hills (1917, Stanley Paul & Co.)
  • Cambria's Fair Daughter (1923)
  • Sweetheart of the Valley (1927)
  • Romance & Realism in the Near East (1934)

Yn y Gymraeg mae'r trosiadau a ganlyn:

  • Gemau yn y llwch. Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1970. ISBN 0901330337
  • Petalau yn y gwynt. Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd 1971. ISBN 0901330396

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Y Bywgraffiadur Cymreig Ar-lein
  2. Burke's Peerage and Baronetage, 106th edition, 2 volumes (Crans, Switzerland: Burke's Peerage (Genealogical Books) Ltd, 1999).