Edmund Mortimer

ysgrifennwr (1376-1411)
Mae'r erthygl yma yn cyfeirio at Edmund Mortimer (1376-1409) fu mewn cynghrair gyda Owain Glyn Dŵr. Am bobl eraill o'r un enw, gweler Mortimer (teulu)

Roedd Edmund Mortimer (9 Tachwedd, 1376 - 1409?) yn ail fab i Edmund Mortimer, 3ydd Iarll y Mers a'i wraig Philippa Plantagenet. Fel ŵyr i Lionel o Antwerp, roedd yn ddisgynnydd i Edward III, brenin Lloegr ac yn gefnder i Harri IV, brenin Lloegr. Gan fod taid Edmund yn drydydd mab i Edward III, tra'r oedd tad Harri yn bedwaredd mab iddo, gallai hawlio coron Lloegr.

Edmund Mortimer
Ganwyd9 Tachwedd 1376 Edit this on Wikidata
Llwydlo Edit this on Wikidata
Bu farwChwefror 1411 Edit this on Wikidata
Gwynedd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethllenor Edit this on Wikidata
TadEdmund Mortimer, 3ydd Iarll y Mers Edit this on Wikidata
MamPhilippa Edit this on Wikidata
PriodCatrin ferch Owain Glyn Dŵr Edit this on Wikidata
PlantLionel de Mortimer, merch ddienw drwy Mortimer, merch ddi-enw drwy Mortimer Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Mortimer Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Ganed Edmund Mortimer yng nghastell Llwydlo. Pan ddechreuodd gwrthryfel Owain Glyn Dŵr, ymladdodd Mortimer dros Harri IV, ond gorchfygwyd ef gan Owain ym Mrwydr Bryn Glas a'i gymeryd yn garcharor. Nid oedd y brenin ar frys i dalu am ei ryddhau, a gwnaeth Mortimer gytundeb ag Owain, gan briodi ei ferch Catrin. Credir iddynt gael pedwar o blant. Gwnaeth Mortimer ag Owain gytundeb gyda Henry Percy, Iarll 1af Northumberland, i ddiorseddu Harri IV a rhannu'r deyrnas rhyngddynt, y Cytundeb Tridarn. Bu farw Edmund yn ystod gwarchae ar Gastell Harlech gan fyddin dan Harri, mab Harri IV.

Ceir manylion am lawer o'r digwyddiadau hyn yng nghronicl Adda o Frynbuga.

Llinach

golygu
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Phylip Hanmer
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Syr David Hanmer
Cefnogi OGD
m. 1387
 
Angharad
merch Llywelyn Ddu
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Glyn Dŵr
Tywysog Cymru
 
Margaret Hanmer
1370 – tua 1420)
 
John
Cefnogi OGD
 
Phylip
Cefnogi OGD
 
Gruffudd
Cefnogi OGD
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd
m. 1411
 
Maredudd
Yn dal yn fyw yn 1417
 
Catrin ferch Owain Glyn Dŵr
m. 1413
 
Edmund Mortimer
Cefnogi OGD
m. 1409
 
Roger Mortimer
Iarll y Mers
m 1398
 


Cyfeiriadau

golygu