Brwydr Bryn Glas

brwydr fawr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Owain Glyndŵr a welodd fuddugoliaeth bwysig i'r Cymry dros y Saeson


Roedd Brwydr Bryn Glas (SO 253682), (hefyd Brwydr Pilleth mewn cofnodion Saesneg, neu weithiau Frwydr Pyllalai[1]) yn frwydr fawr yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Owain Glyn Dŵr a welodd fuddugoliaeth bwysig i'r Cymry dros y Saeson dan Syr Edmund Mortimer. Cafodd ei ymladd ar 22 Mehefin 1402, ger pentref Pilalau, ar odre gogleddol Fforest Clud, ger Llanandras a'r ffin rhwng Swydd Henffordd a Powys.

Brwydrau'r Normaniaid a'r Saeson yng Nghymru

Y cefndirGolygu

Roedd gwrthryfel Owain Glyn Dŵr wedi dechrau yn 1400. Roedd Harri IV o Loegr wedi penodi Syr Edmund Mortimer yn brif swyddog iddo yn y Mers. Ewythr oedd yr Edmund Mortimer hwnnw i Edmund de Mortimer, 5ed Iarll y Mers a oedd yn mwynhau gwell hawl i goron Lloegr na'r brenin ei hun, yn ddamcaniaethol, ond hyd hynny cefnogai Harri. Ffactor arall yn ei deyrngarwch oedd y ffaith fod ganddo feddiannau helaeth yng Nghymru ac yn y Mers a bu iddo ddioddef eisoes o weithgareddau Glyn Dŵr; felly nid oedd yn awyddus i weld y gwrthryfel yn parhau.

Y frwydrGolygu

Roedd rhwng 2,000 a 4,000 o ddynion ym myddin Lloegr (fel yng nghofnodion y rhan fwyaf o frwydrau’r Oesoedd Canol, mae’r niferoedd yn amrywio). Eu harweinydd oedd Syr Edmund Mortimer ac roedd ganddo fintai o saethwyr Cymreig hefyd. Roedd cyfanswm o rhwng 800 ac 1,100 yn lluoedd y Cymry o dan awdurdod Rhys Gethin, sef un o swyddogion mwyaf talentog a phrofiadol Owain Glyndwr (a laddwyd yn ddiweddarach yn yr ymosodiad ar gastell Grysmwnt yn 1405). Doedd dim llawer o offer gan y Cymry o’u cymharu â’r Saeson ond roedd ganddyn nhw’r fantais o’r tir uwch. Er bod llai ohonyn nhw, roedd lluoedd Glyndŵr wedi’u rhannu. Roedd rhan o’i fyddin, gan gynnwys llawer o saethwyr â’u bwâu hir pwerus, wedi cymryd eu lle ar lethrau’r bryn. Roedd y gweddill yn cuddio mewn dyffryn ar ymyl y bryn, o’r golwg yn y dail trwchus. Cafodd dynion Mortimer eu cymell i symud ymlaen yn eu trefniant i fyny’r llethr ac roedden nhw o fewn cyrraedd i’r saethwyr Cymreig. Wrth i ŵyr traed Mortimer geisio agosáu at saethwyr Glyndŵr, daeth y Cymry i’r golwg o’r dyffryn ac ymosododd y rhai a oedd ar y bryn. Gan eu bod yn saethu i lawr ar filwyr Mortimer roedd yr ergydion cymaint mwy grymus. Syrthiodd nifer o'r Saeson cyn dod yn agos i rengoedd y Cymry a medru ymladd llaw wrth law. Ar adeg hollbwysig yn y frwydr, enciliodd llawer o’r saethwyr Cymreig ym myddin Mortimer a throi eu bwâu ar eu cyn-gymheiriaid. Roedd lluoedd Mortimer wedi drysu ac fe wnaethon nhw ffoi. Roedd Cymry lleol o swydd Henffordd yn rhengoedd Mortimer, yn erbyn eu hewyllys, a phan welsant sut oedd y trai yn troi aethant drosodd i Glyn Dŵr (mae rhai haneswyr yn meddwl fod hynny wedi'i gytuno o flaen llaw) ac ymosod ar y milwyr Seisnig. Amcangyfrifir bod 1,000 o’r Saeson wedi’u lladd. Trechwyd byddin Mortimer yn llwyr a chollodd nifer o filwyr cyffredin ac efallai cannoedd o farchogion ar eu meirch trymion. Daliwyd Mortimer ei hun ac yn nes ymlaen priododd Catrin, merch Owain, a sefyll gyda'r arweinydd Cymreig yn erbyn brenin Lloegr.

Mae adroddiadau am y frwydr yn honni bod menywod a oedd yn dilyn y gwersyll wedi anffurfio organau rhyw cyrff meirw’r Saeson. Roedd hynny i ddial am weithredoedd byddinoedd Harri IV y flwyddyn flaenorol a oedd yn cynnwys achosion o dreisio a chreulondeb. Mae’n ddigon posibl i’r stori gael ei chreu gan senedd Loegr er mwyn portreadu’r Cymry fel barbariaid. Y frwydr hon yw un o fuddugoliaethau mwyaf y Cymry yn erbyn byddin Lloegr hyd heddiw

LlyfryddiaethGolygu

  • D. Helen Allday, Insurrection in Wales (Lavenham, 1981)
  • R.R. Davies, The Revolt of Owain Glyn Dŵr (Rhydychen, 1995)

CyfeiriadauGolygu

  1. Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd.