Eduard Buchner
Cemegydd o'r Almaen oedd Eduard Buchner (20 Mai 1860 - 13 Awst 1917). Roedd yn frodor o München, Bafaria.
Eduard Buchner | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 20 Mai 1860 ![]() München ![]() |
Bu farw | 13 Awst 1917 ![]() Focșani ![]() |
Man preswyl | München ![]() |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth yr Almaen ![]() |
Addysg | athro cadeiriol ![]() |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | biocemegydd, cemegydd, academydd ![]() |
Cyflogwr |
|
Priod | Lotte Stahl ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Cemeg Nobel, Medal Liebig ![]() |
Yn 1897, dechreuodd Buchner astudio gallu echdynion o furum i eplesu siwgr er gwaethaf absenoldeb celloedd burum byw. O fewn cyfres o arbrofion ym Mhrifysgol Berlin, arsylwodd fod y siwgr yn cael ei eplesu heb gelloedd burum yn y gymysgedd. Enwodd yr ensym a achosodd yr eplesiad swcros yma yn "symas". Yn 1907 derbyniodd Buchner y Wobr Nobel am Gemeg am y gwaith ymchwil hwnnw, ac ers hynny mae'r rhan fwyaf o ensymau, yn dilyn esiampl Buchner, wedi cael eu henwi yn ôl yr adwaith maent yn ei gynnal.