Prifysgol Eberhard Karl Tübingen

Prifysgol gyhoeddus a leolir yn Tübingen, Baden-Württemberg, yn ne-orllewin yr Almaen yw Prifysgol Tübingen, yn llawn Prifysgol Eberhard Karl Tübingen (Almaeneg: Eberhard Karls Universität Tübingen, Lladin: Universitas Eberhardina Carolina).

Prifysgol Tübingen
Adeilad y Neuadd Newydd (Neue Aula).
Mathcomprehensive university, prifysgol gyhoeddus, prifysgol ymchwil gyhoeddus, University of Excellence, cyhoeddwr mynediad agored Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlEberhard I, Duke of Württemberg, Duke Karl II Eugen, Duke of Württemberg Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1477 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTübingen Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau48.525°N 9.059°E Edit this on Wikidata
Cod post72074 Edit this on Wikidata
Map
Sefydlwydwyd ganEberhard I, Duke of Württemberg Edit this on Wikidata

Sefydlwyd y brifysgol gan yr Iarll Eberhard VI ym 1477, wedi iddo gael blas ar y Dadeni Dysg pan aeth ar grwydr drwy'r Eidal. Daeth yn ganolfan i ddiwygwyr eglwysig a dinesig a syniadau newydd, yn enwedig ym maes diwinyddiaeth. Sefydlwyd y coleg diwinyddol Protestannaidd yno gan y Dug Ulrich ym 1534. Bu nifer o enwogion o amryw feysydd yn astudio yn Tübingen, gan gynnwys y diwygiwr Philipp Melanchthon, seryddwr Johannes Kepler, y bardd Friedrich Hölderlin, yr athronwyr G. W. F. Hegel a Friedrich Wilhelm Joseph Schelling, y diwinydd a dyngarwr Albert Schweitzer, y diwinydd Hans Küng, a'r Pab Bened XVI.

Cyrhaeddodd y brifysgol anterth ei henwogrwydd yng nghanol y 19g, fel cartref i Ysgol Tübingen, ysgol feddwl o ddiwinyddion Protestannaidd, yn eu plith Ferdinand Christian Baur. Tübingen oedd y brifysgol gyntaf yn yr Almaen i sefydlu cyfadran gwyddorau natur, ac hynny ym 1863.[1] Cafodd athroniaethau Marcsaidd a Marcsiaeth–Leniniaeth le blaenllaw yn y brifysgol yn nechrau'r 20g. Bu'n rhaid i academyddion gydymffurfio â pholisïau'r llywodraeth Natsïaidd o 1933 hyd at 1945. Ailstrwythurwyd Prifysgol Tübingen ym 1970 yn ôl yr arfer Ffrengig, gan rannu'r brifysgol yn sawl adran annibynnol ar gyfer astudiaethau ac ymchwil.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) University of Tübingen. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Tachwedd 2021.